Yr A547 Ffordd Abergele yw’r brif ffordd i ac o Fae Colwyn yn y dwyrain a chanol tref Bae Colwyn yn y gorllewin. Mae’n uno â Ffordd Conwy heibio’r groesffordd â Ffordd yr Orsaf. Mae hefyd yn uno nifer o ardaloedd preswyl â Theatr Colwyn, Stadiwm CSM (Stadiwm Eirias), Canolfan Hamdden Colwyn, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ac ysgolion.
Materion allweddol
- Nid oes unrhyw gyfleusterau beicio ar neu oddi ar y ffordd ar hyd y rhan hon.
- Nid oes digon o gyrbau isel mewn rhai lleoliadau i helpu cerddwyr â phroblemau symudedd neu nam golwg. Mae angen gwneud gwelliannau i groesfannau rhai ffyrdd ymyl.
- Mae rhai palmentydd ar hyd y llwybr yn gul ac o bosib fod angen gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt.
- Nid yw lled ffyrdd yn ddelfrydol ar gyfer beicwyr ar hyn o bryd.
- Mae adolygiad o’r croesfannau i gerddwyr yn dangos bod modd gwneud gwelliannau.
- Mae’r cylchfannau presennol yn defnyddio rhan sylweddol o’r ffordd, gan olygu bod pobl sy’n croesi’r ffordd yn gorfod cerdded yn bellach.
Cynigion
- Darparu llwybr a rennir lletach a di-dor i gerddwyr a beicwyr ar ochr ogleddol Ffordd Abergele o gylchfan y Marine ger Rotary Way at Ffordd yr Orsaf.
- Gosod cyfleusterau croesi paralel ar gylchfan y Marine.
- Culhau lled y ffordd i 6 metr, gan hyrwyddo diogelwch ar y ffordd trwy leihau cyflymder cerbydau.
- Symud gofodau parcio ar y stryd i strydoedd ochr lle bo modd, er mwyn gwneud lle i’r gwelliannau.
- Adleoli a lledu’r croesfannau twcan a’r rhai heb eu rheoli er hwylustod a chysur i gerddwyr.
- Creu cyffyrdd wedi’u codi newydd ar y prif groesfannau er mwyn gwella diogelwch a’i gwneud hi’n haws i gerddwyr groesi’r ffordd.
- Gosod cyrbau isel newydd, palmant botymog, a chroesfannau ffyrdd ymyl uwch, er mwyn rhoi mwy o ddiogelwch a chysur i gerddwyr.
- Cynyddu maint ardaloedd aros mewn safleoedd bws a gosod cysodfannau newydd.
- Creu ardaloedd wedi’u tirlunio yn cynnwys coed a gerddi glaw ar hyd Ffordd Abergele.
Ffordd Abergele: cynllun ffordd gyfredol
Ffordd Abergele - cynllun ffordd gyfredol
Cynlluniau
Gweld y cynlluniau Ffordd Abergele. (PDF, 3.7MB)
Tudalen nesaf: Parc Eirias