Mae Ffordd yr Orsaf yn un o’r prif ardaloedd siopa yng nghanol y dref ac mae’n ardal i gerddwyr yn unig yn ystod y dydd. Cynhelir marchnad yno bob mis. Gall cerbydau gael mynediad oddi ar Ffordd Abergele gyda’r nos ar gyfer llwytho a pharcio i bobl anabl. Mae bolardiau awtomatig wedi’u gosod i reoli mynediad cerbydau yn ystod amseroedd gwaharddedig (parth cerddwyr).
Pan nad yw’n barth i gerddwyr yn unig, mae Ffordd yr Orsaf yn ffordd ar gyfer cerbydau, gydag ardaloedd dynodedig i gerddwyr ar bob ochr. Mae’r ffordd hon yn cysylltu Ffordd Abergele/ Ffordd Conwy â Rhodfa’r Tywysog, ac felly mae’n llwybr poblogaidd ar gyfer cyrraedd y promenâd a’r orsaf drenau. Mae gwelliannau wedi’u gwneud i’r parth cyhoeddus ar Ffordd yr Orsaf, gan gynnwys goleuadau, seddi a rhywfaint o blanhigion.
Materion allweddol
- Ceir rhai problemau parcio ar y ffordd, boed hynny o ran cael mynediad pan fo’r bolardiau wedi’u gostwng neu trwy ddod i mewn yn anghyfreithlon oddi ar ffordd Rhodfa'r Tywysog heibio’r arwyddion Dim Mynediad. Gall hyn olygu bod gormod o geir wedi’u parcio yn yr ardal, sy’n ei gwneud hi’n anodd i gerddwyr fynd heibio.
- Nid oes unrhyw ofodau parcio i bobl anabl na gofodau llwytho, sy’n anghyfleus y tu hwnt i’r oriau ar gyfer cerddwyr yn unig.
- Er bod beics yn teithio i’r ddau gyfeiriad yn answyddogol, nid oes unrhyw gyfleusterau penodol i feicwyr ar gyfer teithio ar hyd y ffordd.
- Diffyg mannau parcio i feics.
Cynigion
- Cadw’r system bolardiau awtomatig bresennol. Gosod bolard ychwanegol i atal gyrwyr rhag cael mynediad i Ffordd yr Orsaf trwy’r llwybr cyswllt i Ffordd Penrhyn.
- Creu mannau llwytho ar ochr orllewinol Ffordd yr Orsaf.
- Gosod cymysgedd o gelfi stryd a phlanhigion er mwyn atal pobl rhag parcio mewn ardaloedd i gerddwyr.
- Plannu coed a phlanhigion er mwyn gwneud i’r ardal edrych yn fwy deniadol i siopwyr ac ymwelwyr.
- Creu cyffyrdd newydd wedi’u codi bob ochr i Ffordd yr Orsaf er mwyn gwella diogelwch a’i gwneud yn haws i gerddwyr groesi’r ffordd.
- Ychwanegu lôn feicio gwrthlif newydd a lle parcio ar eu cyfer.
- Gosod mwy o arwyddion dynodi’r ffordd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i atyniadau lleol allweddol.
Argraff arlunydd
Delweddu Ffordd yr Orsaf
Cynlluniau
Gweld cynlluniau Ffordd yr Orsaf. (PDF, 1.5MB)
Tudalen nesaf: Ffordd Penrhyn