Ym Mharc Eirias, mae yna nifer o lwybrau sy’n cysylltu â’r stadiwm, y ganolfan hamdden, ysgolion a phencadlys Heddlu Gogledd Cymru. Trwy ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r llwybrau hyn, mae cyfle i greu llwybr o Hen Golwyn sydd ar wahân i’r traffig yn bennaf. Fel hyn, gall pobl osgoi llwybr prysur yr A547.
Materion allweddol
- Mae rhai o’r llwybrau presennol yn rhy gul mewn mannau i gerddwyr a beicwyr.
- Gellid gwella llwybrau cerddwyr a beicwyr rhwng Ffordd Abergele a’r ganolfan hamdden.
- Nid yw’n hwylus cerdded neu feicio trwy faes parcio’r ganolfan hamdden a byddai’n fanteisiol cael llwybr penodol yno.
Cynigion
- Adnewyddu’r llwybrau a rennir yn y parc trwy eu lledu a rhoi wyneb newydd arnynt yn ôl yr angen.
- Cyflwyno llwybr a rennir newydd ar hyd cae pêl-droed Parc Eirias.
- Lledu a rhoi wyneb newydd ar y palmentydd ar hyd Ffordd Eirias ar gyfer gwella cysylltedd rhwng Ffordd Abergele ac Ysgol Uwchradd Eirias.
- Gwella goleuadau stryd ar hyd y llwybrau lle bo angen.
- Gosod mwy o arwyddion dynodi’r ffordd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i atyniadau lleol allweddol.
- Gwella maes parcio’r ganolfan hamdden a’r ardal gyfagos er mwyn caniatáu gwell mynediad i'r ganolfan hamdden ac oddi yno.
Parc Eirias: cynllun ffordd gyfredol
Parc Eirias - cynllun ffordd gyfredol
Cynlluniau
Gweld cynlluniau Parc Eirias. (PDF, 1.5MB)
Tudalen nesaf: Hoffem gael eich barn