Mae gwelliannau wedi’u nodi ar gyfer y maes parcio presennol, er mwyn annog pobl i'w ddefnyddio. Nid yw’r maes parcio presennol yn cael ei ddefnyddio ddigon. Nid yw’n ddeniadol ac mae’n teimlo’n lle anghysbell a all hefyd ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r cynnig yn cynnwys cael gwared ar y toiledau cyhoeddus (sydd ar gau oherwydd fandaliaeth) a chreu maes parcio haws i’w ddefnyddio. Byddai cynllun gwell yn darparu llwybr ychwanegol i gerddwyr/beicwyr rhwng Ffordd Abergele a Rhodfa’r Tywysog ac ymlaen i’r orsaf drenau a’r promenâd.
Byddai cynnig Ivy Street yn helpu i greu canol tref deniadol gyda rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio mwy diogel ac uniongyrchol o'r maes parcio, i'r maes parcio a drwy'r maes parcio.
Materion allweddol
- Nid oes unrhyw lwybrau trwy’r maes parcio presennol, felly mae’n rhaid i gerddwyr gerdded ar y ffordd neu trwy ardaloedd parcio.
- Mae llawer o yrwyr yn gadael eu ceir ar y palmant ger y bloc toiledau, gan rwystro llwybrau cerddwyr.
- Gallai ymddygiad gwrthgymdeithasol amharu ar ba mor ddeniadol yw’r llwybr.
- Nid oes lle ar gyfer parcio beics.
- Mae rhai adeiladau ac ardaloedd cyhoeddus mewn cyflwr gwael.
Cynigion
- Creu llwybr i gerddwyr a beicwyr sy’n cysylltu â Ffordd Abergele a Rhodfa’r Tywysog ar hyd ochr orllewinol y maes parcio.
- Gosod planhigion, coed a chelfi stryd eraill er mwyn gwneud i’r ardal edrych yn fwy deniadol.
- Gwella cynllun y maes parcio er mwyn creu cymaint o ofodau parcio â phosibl a’i gwneud hi’n haws cael mynediad a gadael.
- Lledu’r palmant ar y gyffordd â Sea View Road.
- Dymchwel y toiledau er mwyn creu ardal wedi’i thirlunio sy’n fwy deniadol.
- Ychwanegu mannau diogel i barcio beics.
- Gosod pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan.
Maes parcio Ivy Street: cynllun ffordd gyfredol
Maes parcio Ivy Street - cynllun ffordd gyfredol
Cynlluniau
Gweld cynlluniau maes parcio Ivy Street. (PDF, 4.3MB)
Tudalen nesaf: Rhodfa'r Tywysog a'r llwybr cyswllt i'r promenâd