Mae blaengwrt yr orsaf drenau yn lleoliad allweddol a allai elwa o welliannau hygyrchedd. Ceir sy’n ennill lle blaenllaw yn y cynllun presennol. Gall fod yn rhwystr corfforol i bobl, yn enwedig pobl â phroblemau symudedd, gael mynediad at orsaf drenau neu deithio o’r orsaf i ganol y dref.
Mae’r ardal yn borth allweddol i Fae Colwyn, y mae ymwelwyr yn ei ddefnyddio wrth gyrraedd neu adael ar y trên. Mae’r cynllun presennol yn golygu y gall pobl ystyried teithio rhwng yr orsaf drenau, y promenâd, canol y dref a rhannau eraill o’r dref yn brofiad annymunol. Mae cyfle i ddisodli maes parcio’r blaengwrt gyda sgwâr cyhoeddus deniadol, a fyddai’n creu argraff dda o ganol y dref.
Mae cyfle hefyd i annog pobl i deithio’n gynaliadwy, gyda chyfleusterau ar gyfer beicwyr (megis storfeydd beiciau) a cherddwyr (megis llwybrau lletach) a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan
Materion allweddol
- Mynediad is na’r safon i gerddwyr, llwybrau cul a chysylltiadau gwael â chanol y dref.
- Mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw ar ardaloedd i gerddwyr o ran rhoi wyneb newydd ac mae palmant botymog ar goll.
- Nid yw’r llwybrau cerdded yn rhai uniongyrchol rhwng yr orsaf drenau ac ardaloedd allweddol eraill.
- Diffyg cyfleusterau ar gyfer beics gan gynnwys llwybrau a mannau parcio.
Cynigion
- Creu porth gwell ynghyd â sgwâr newydd, yn cynnwys palmentydd, planhigion ac ardaloedd i bobl gwrdd ac ymlacio, o ansawdd gwell.
- Darparu cysylltiadau gwell rhwng canol y dref, yr orsaf drenau a’r promenâd, trwy osod llwybrau newydd, lletach ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
- Cadw’r ardaloedd gollwng ar gyfer tacsis a cherbydau yn yr orsaf drenau.
- Symud y gofodau parcio presennol ar y blaengwrt i hen safle Neuadd y Farchnad, ychwanegu mwy o lefydd parcio i bobl anabl a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.
- Creu llefydd diogel i barcio beics.
- Gosod mwy o arwyddion dynodi’r ffordd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i atyniadau lleol allweddol.
Argraff arlunydd
Delweddu blaengwrt gorsaf drenau
Cynlluniau
Gweld y cynlluniau blaengwrt gorsaf drenau Bae Colwyn. (PDF, 4.3MB)
Tudalen nesaf: Ffordd yr Orsaf