Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 14 Tachwedd 2023.
Nod y cynnig hwn yw gwella profiad cerddwyr a beicwyr o amgylch canol tref Bae Colwyn. Byddai hyn yn annog teithio llesol ar gyfer cymudo rhwng canol tref Bae Colwyn a Hen Golwyn a gallai ddenu mwy o ymwelwyr i gerdded a beicio i’r ardal.
Mae’r cynllun wedi’i lywio gan dargedau cludiant penodol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â sylwadau gan fudd-ddeiliaid.
Bydd angen i ni sicrhau cyllid ar gyfer datblygu’r cynllun hwn i fod yn barod ar gyfer adeiladu a mwy o gyllid ar gyfer cynnal y gwaith adeiladu
Hanes y prosiect hwn
Mae’r cynnig hwn yn gwneud defnydd o adborth o ymgynghoriad blaenorol yn 2020 ar gynlluniau ar gyfer canol tref Bae Colwyn.
Yn yr ymgynghoriad hwnnw, dywedodd preswylwyr ac aelodau’r cyhoedd wrthym ni eu bod nhw’n hoff o’r syniadau canlynol:
- Palmentydd lletach o ansawdd gwell, celfi stryd o ansawdd gwell a phlannu coed a phlanhigion yng nghanol y dref (41% hoffi’n fawr, 33% hoffi)
- Sgwâr tref newydd yng nghornel safle Eglwys Sant Paul a gwneud gwelliannau i Sgwâr yr Orsaf (35% hoffi’n fawr, 28% hoffi)
- Llwybrau cerdded a beicio yng nghanol y dref ac i lawr am lan y môr a’r promenâd (38% hoffi’n fawr, 32% hoffi)
- Maes parcio newydd yn hen safle Neuadd y Farchnad (41% hoffi’n fawr, 34% hoffi)
- Gwneud gwelliannau i faes parcio Ivy Street (25% hoffi’n fawr, 38% hoffi)
- Agor Ffordd yr Orsaf i draffig unffordd, gyda mannau parcio i siopwyr, gan gadw palmentydd llydan i gerddwyr a busnesau eu defnyddio (39 hoffi’n fawr, 28% hoffi)
- Parth 20mya yng nghanol y dref (33% hoffi’n fawr, 32% hoffi)
- System unffordd ddiwygiedig yng nghanol y dref (27% hoffi’n fawr, 24% hoffi, ond 21% ddim yn ei hoffi o gwbl a 9% ddim yn ei hoffi)
Fodd bynnag, derbyniom adborth gan fudd-ddeiliaid a chyllidwyr megis Llywodraeth Cymru, Sustrans, Cycling UK, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru fod ganddynt bryderon ynglŷn â:
- Diffyg cyfleusterau teithio llesol
- Diffyg cysylltiad â chymunedau cyfagos
- Gormod o bwyslais ar geir
- Effaith ar yr A55 gan fod Ffordd Conwy/Abergele yn cael eu defnyddio’n aml fel llwybr gwyro yn ystod gwaith cynnal a chadw neu os bydd y ffordd ar gau oherwydd damwain
Mae’r holl adborth hwn wedi cael ei ystyried ar gyfer llunio’r cynigion newydd hyn, gan gadw’r elfennau roedd y cyhoedd yn eu hoffi a rhoi sylw i bryderon eraill gan fudd-ddeiliaid.
Beth yw Teithio Llesol?
Mae teithio llesol yn golygu gwneud siwrneiau pob dydd drwy gerdded, beicio neu fynd ar olwynion yn hytrach na defnyddio cludiant fel car neu fws. (Mae mynd ar olwynion yn cynnwys defnyddio sgwter symudedd neu gadair olwyn.)
Mae’n fenter gan Lywodraeth Cymru i annog teithio iachach a lleihau tagfeydd traffig.
Mae teithio llesol yn cynnwys siwrneiau i’r gwaith, ysgol, coleg, siopau a chyfleusterau hamdden. Mae’n rhaid i lwybr teithio llesol gysylltu â’r mannau hyn a bod yn addas ar gyfer teithiau bob dydd. Nid yw teithio llesol yn cynnwys llwybrau a ddefnyddir ar gyfer hamdden neu i fynd am dro yn unig.
Amcanion y cynllun
Mae’r amcanion allweddol yn cynnwys:
- Annog cludiant cynaliadwy
- Ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr
- Gwella mannau cyhoeddus
- Creu llwybrau teithio llesol hwylus sy’n helpu i gysylltu cymdogaethau yn ardal Bae Colwyn
Mae’r cynllun yn cynnwys:
- Ailddatblygu blaengwrt gorsaf drenau Bae Colwyn
- Gwella canol tref Bae Colwyn
- Gwella llwybrau teithio llesol ar Ffordd Abergele a chyffyrdd cysylltiedig
- Gwella llwybrau teithio llesol trwy Barc Eirias
- Gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan
- Gwella’r rhwydwaith teithio llesol trwy eu cysylltu â llwybrau presennol
- Ailgynllunio'r rhwydwaith ffyrdd lleol i’w gwneud hi’n haws i bobl gerdded a beicio ac er mwyn gwella cysylltiadau â chanol y dref
Cymerwch olwg ar y cynlluniau i gael mwy o fanylion am y cynigion.
Tudalen nesaf: Blaengwrt gorsaf drenau Bae Colwyn