Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 14 Tachwedd 2023.
Beth sy'n digwydd nesaf
Ar ôl yr ymgynghoriad, byddwn yn:
- Darllen a dadansoddi’r holl ymatebion
- Llunio cynllun manwl yn cynnwys yr adborth lle bo modd (gan ddibynnu ar gyllid)
- Gwneud cais am ganiatâd cynllunio ac unrhyw gymeradwyaeth arall
- Gwneud cais am gyllid ar gyfer gwaith adeiladu
- Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â thrigolion a busnesau ynghylch yr amserlen adeiladu
Dewisiadau hygyrch:
Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.
Gallwn hefyd ddisgrifio’r llwybr ar lafar dros y ffôn. Mae gennym swyddog sy’n siarad Cymraeg a swyddog sy’n siarad Saesneg.
Gall trigolion ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog. Os na fydd swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.