Amcanion y Cynllun
Mae amcanion y cynllun hwn wedi dod o faterion allweddol, cyfyngiadau, ac amcanion trafnidiaeth benodol a osodwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru, ac o ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Rydym yn rhagweld y bydd y profiad gwell i gerddwyr a beicwyr yn denu mwy o ymwelwyr i'r ardal drwy gerdded a beicio.
Prif Amcanion
Thema | Amcan |
Symud o ddefnydd car preifat |
Cynyddu nifer y teithiau teithio llesol rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno. |
Darparu mynediad at waith, addysg a gwasanaethau |
Gwella mynediad teithio llesol i gyflogaeth, addysg, gwasanaethau allweddol, a chyrchfannau eraill sy’n cynhyrchu traffig. Cysylltu cymunedau yn well. |
Creu rhwydwaith integredig |
Cyfrannu at uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer rhwydwaith teithio llesol integredig. |
Darparu mynediad i bawb |
Darparu llwybr sy’n hyrwyddo teithio llesol i bawb drwy fod yn hawdd i’w ddilyn, yn uniongyrchol ac yn ddiogel i’w ddefnyddio. |
Atebion sensitif i’r amgylchedd |
Gwella cysylltiadau teithio llesol heb effeithio'n negyddol ar asedau treftadaeth na gweithrediadau Gwarchodfa Natur RSPB Conwy. |
Tudalen Nesaf