Thema | Materion | Cyfleoedd |
Rhwydwaith teithio llesol presennol ac yn y dyfodol |
Darpariaeth teithio llesol cyfyngedig ar hyn o bryd yn ardal yr astudiaeth, heb unrhyw gysylltiad rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno. |
Mae Map Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig Conwy wedi’i ddatblygu ar ffurf drafft ac mae’n amlygu dyheadau ar gyfer rhwydwaith integredig gyda chysylltiadau o Lan Conwy i Gyffordd Llandudno. |
Cysylltiadau lleol ar drafnidiaeth gyhoeddus |
Gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus afreolaidd ac anaml. Dim cysylltiadau uniongyrchol o Lan Conwy i Gonwy. |
Byddai galluogi cerdded a beicio dros bellteroedd byrrach yn darparu opsiynau teithio amgen i drafnidiaeth gyhoeddus a char preifat. |
Darpariaeth rhwydwaith ffyrdd |
Mae lefelau beicio ar y ffordd yn isel ac yn gyffredinol wedi aros yn gyson dros amser, heb fawr o dwf.
Nid yw amgylchedd y ffyrdd yn ffafriol i feicio. Rhai damweiniau yn ymwneud â beicwyr ar hyd yr A470 a'r A547. |
Byddai darparu seilwaith pwrpasol ar gyfer beicwyr yn gwella’r amgylchedd ar gyfer teithio llesol yn sylweddol. |
Dulliau teithio |
Lefelau uchel o ddefnyddio ceir preifat a lefelau isel o feicio. |
Gallai darpariaeth teithio llesol bwrpasol, ochr yn ochr â mesurau newid ymddygiad ehangach, arwain at symudiad nodedig oddi wrth geir. |
Cyrchfannau a mynediad i gyfleoedd |
Mae ystod o amwynderau, sydd eu hangen ar drigolion Glan Conwy, yng Nghyffordd Llandudno a Chonwy.
Ystyrir bod mynediad at wasanaethau o Glan Conwy yn wael yn ôl safonau Cymru.
Mae diffyg cysylltiadau rhwng cymunedau yn ei gwneud yn heriol i gael mynediad at wasanaethau drwy gerdded, beicio neu fynd ar olwynion. |
Byddai gwell seilwaith teithio llesol yn gwella mynediad at gyflogaeth, addysg ac amwynderau eraill, yn ogystal â bod o fudd i iechyd a llesiant trigolion lleol. |
Pobl yn debygol o deithio ar feic (tuedd i feicio) |
Lefelau isel o deithio llesol ar hyn o bryd. |
Ffafriaeth resymol ar gyfer beicio o Glan Conwy i Gyffordd Llandudno – potensial heb ei fodloni eto. Gellid trosi teithiau pellter byr o geir preifat i deithio llesol. |
Rôl twristiaeth |
Nid yw teithiau twristiaeth a hamdden yn brif ffocws Deddf Teithio Llesol (Cymru). |
Amrywiaeth eang o atyniadau twristiaeth a hamdden yn yr ardal, gyda mynediad i lwybrau teithio pellter hirach. Yn cynnig potensial i ehangu teithio llesol lleol at ddibenion twristiaeth a hamdden. |