Daeth yr ymgynghoriad hwn I ben ar 17 Chwefror 2023.
Darllenwch adborth yr ymgynghoriad
Ynglŷn â’r cynllun
Rydym yn gweithio i ddod o hyd i ateb a ffefrir ar gyfer llwybr teithio llesol Cyffordd Llandudno i Lan Conwy.
Bydd y llwybr yn darparu cyswllt teithio llesol o Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno i bentref Glan Conwy, yn unol â strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Beth yw Teithio Llesol?
Mae teithio llesol yn golygu gwneud siwrneiau pob dydd drwy gerdded, mynd ar olwynion neu feicio yn hytrach na defnyddio cerbyd fel car neu fws. (Mae mynd ar olwynion yn cynnwys defnyddio sgwter symudedd neu gadair olwyn.)
Mae’n fenter gan Lywodraeth Cymru i annog teithio iachach a lleihau tagfeydd traffig.
Mae teithio llesol yn cynnwys siwrnai i’r gwaith, ysgol, coleg, siopau a chyfleusterau hamdden. Mae’n rhaid i lwybr teithio llesol gysylltu â’r lleoedd hyn a bod yn addas ar gyfer teithiau bob dydd. Nid yw teithio llesol yn cynnwys llwybrau a ddefnyddir ar gyfer hamdden neu fynd am dro yn unig.
Beth yw WelTAG?
Cynhyrchwyd Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio wrth ddatblygu, arfarnu a gwerthuso unrhyw ymyriad trafnidiaeth arfaethedig. Mae’n broses y mae’n rhaid ei chymhwyso i bob prosiect trafnidiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae WelTAG yn ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn ystyried effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.
Fe wnaethom baratoi adroddiad Cam Un (Achos Amlinellol Strategol) ym mis Medi 2021. Gwnaethom drafod a chytuno ar ganlyniadau’r adroddiad hwn gyda Grŵp Adolygu a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021 a Gweithdai Rhanddeiliaid.
Rydym nawr yn cynnal astudiaeth Cam Dau. Rydym wedi nodi’r problemau presennol a’r cyfleoedd o fewn ardal yr astudiaeth, ac amcanion y cynllun. Rydym wedi nodi ac adolygu atebion posibl, yr ydym yn eu harfarnu.
Tudalen Nesaf