Datblygu opsiynau
Darparodd adroddiad Cam Un WelTAG ddisgrifiad clir yn seiliedig ar dystiolaeth o'r materion y mae angen mynd i'r afael â hwy. Nododd restr hir o 29 opsiwn. O'r rhestr hir hon, gwnaethom roi 3 opsiwn ar y rhestr fer i'w hystyried ymhellach. Rydym wedi ychwanegu pedwerydd opsiwn o'r rhestr hir yn dilyn mewnbwn gan randdeiliaid.
Rhestr fer o opsiynau
Mae’r opsiynau hyn ar gyfer llwybr teithio llesol a rennir wedi’u dewis ar sail trafodaethau â rhanddeiliaid a pha mor dda y maent yn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
Lluniad Ymgynghori Trosolwg Opsiynau (PDF)
Opsiwn 1
Cost: £2,035,000
- Gorsaf reilffordd Glan Conwy i orsaf reilffordd Cyffordd Llandudno
- ar hyd yr A470 a'r A457 Ffordd Conwy
- defnyddio'r llwybr cyd-ddefnydd presennol rhwng ffordd fynediad gorsaf reilffordd Glan Conwy a Phendraw’r Llan
- defnyddio’r gwelliannau teithio llesol diweddar ar draws Cyffordd 19 yr A55 (Black Cat)
Lluniad Ymgynghori Opsiyn 1 (PDF)
Opsiwn 4
Cost: £8,453,000
- Pentref Glan Conwy i orsaf reilffordd Cyffordd Llandudno trwy Gyffordd 18 yr A55
- drwy warchodfa natur yr RSPB
- pont yn croesi rheilffordd Dyffryn Conwy yng nghilfan yr A470
- cyswllt â llwybr teithio llesol arall yng Ng18, gan ddarparu mwy o gysylltiadau i Gyffordd Llandudno, gan gynnwys ar hyd yr A546 a Ferndale Road
Lluniad Ymgynghori Opsiyn 4 (PDF)
Opsiwn 5
Cost: £8,490,000
- Pentref Glan Conwy i orsaf reilffordd Cyffordd Llandudno trwy Gyffordd 18 yr A55
- drwy warchodfa natur yr RSPB
- pont yn croesi rheilffordd Dyffryn Conwy o’r A470
- cyswllt â llwybr teithio llesol arall yng Ng18, gan ddarparu mwy o gysylltiadau i Gyffordd Llandudno, gan gynnwys ar hyd yr A546 a Ferndale Road
Lluniad Ymgynghori Opsiyn 5 (PDF)
Opsiwn 7
Cost: £23,916,000
- Pentref Glan Conwy i orsaf reilffordd Cyffordd Llandudno trwy Gyffordd 18 yr A55
- gwella tanffordd rheilffordd ger gorsaf reilffordd Glan Conwy
- glwybr uwch wrth ymyl y rheilffordd ar hyd yr aber
- cyswllt â llwybr teithio llesol arall yng Ng18, gan ddarparu mwy o gysylltiadau i Gyffordd Llandudno, gan gynnwys ar hyd yr A546 a Ferndale Road
Lluniad Ymgynghori Opsiyn 7 (PDF)
Gwerthusiad opisynau
Rydym wedi asesu pob opsiwn ar y rhestr fer ac wedi eu sgorio ar:
- amcanion y cynllun
- ystyriaethau amgylcheddol
- ystyriaethau economaidd
- ystyriaethau cymdeithasol a diwylliannol
Mae’r asesiadau’n cymharu â’r opsiwn “Gwneud Dim”, sef y sefyllfa bresennol gydag ymyrraeth gyfyngedig ac yn cynnwys unrhyw ddatblygiad yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn y dyfodol. Mae'r asesiad hefyd yn ystyried pa mor dda y mae pob opsiwn yn datrys y problemau a nodwyd.
Rydym wedi asesu arwyddocâd a maint yr effeithiau gan ddefnyddio graddfa saith pwynt:
Tudalen Nesaf