Dyddiadau
- 2024: 19 Mehefin, 4 Medi, 6 Tachwedd
Manylion y cwrs
- Amser: 1:30pm tan 4:30pm
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Tim Dallinger, Social Care Consultants Ltd
- Gwasanaethau targed: Holl wasanaethau
- Grŵp targed: Pawb sy'n gweitho â phobol gydag epilepsi
Nodau ac amcanion y cwrs
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:
- Diffinio epilepsi
- Trafod y driniaeth ar gyfer pobl ag epilepsi
- Adnabod prif achosion epilepsi
- Adnabod y prif fathau o drawiadau
- Rhestru'r pethau sy’n gallu achosi trawiadau
- Trafod y dewis o driniaethau, gan gynnwys:
- Meddyginiaeth – mathau a sut maen nhw’n gweithio
- Pwysigrwydd amseru
- Diet cetogenig
- Llawdriniaeth ar yr ymennydd
- Ysgogi yn nwfn yr ymennydd
- Ysgogi’r nerf trigeminol
- Ysgogi’r nerf fagws
- Therapïau cyflenwol
- Cymorth cyntaf ar gyfer trawiad
- Adnabod y prif risgiau ynghlwm wrth epilepsi
- Egluro'r cyflwr epileptig
- Cyflwr epileptig dirdynnol
- Cyflwr epileptig heb fod yn ddirdynnol
- Egluro pryd y dylid ffonio 999 (ambiwlans)
- Rhestru’r triniaethau ar gyfer cyflyrau epileptig a sut maen nhw’n gweithio
- Diazepan rhefrol
- Midazolam yn y foch
- Trafod ffarmacogineteg sylfaenol – y ffordd y mae’r corff yn amsugno cyffuriau
- Gwybod pryd i roi meddyginiaeth midazolam yn y foch
- Disgrifio’r weithred o roi midazolam yn y foch
- Egluro’r gofal ar ôl trawiad
- Deall pwysigrwydd a gwerth cadw cofnodion da ar gyfer cefnogi epilepsi
- Marwolaeth Annisgwyl Sydyn mewn Epilepsi
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs ond heb dderbyn hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs heb fod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan ei bod yn bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.