Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant ailalluogi


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 12 Chwefror 2025
  • 13 Chwefror 2025
  • 11 Mawrth 2025
  • 12 Mawrth 2025

Manylion y cwrs

  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn
  • Amser:  9:30am tan 4pm (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
  • Hyfforddwr:  Personal Care Consultants
  • Gwasanaethau a dargedwyd:  Lles Cymunedol,Tîm Anableddau, Pobl Hŷn
  • Grŵp targed:  Mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Pobl Hŷn ac Anableddau

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae’n rhaid i bawb sy’n mynychu fod â hyfforddiant cyfredol Codi a Symud Pobl.

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar:

  • Bolisi lleol ar gyfer rheoli gwasanaeth ailalluogi
  • Ymagweddau, sgiliau a thechnegau sy’n addas ar gyfer ailalluogi
  • Agweddau ymarferol ailalluogi - sgiliau gweithredol ac ati
  • Cofnodi ac ysgrifennu adroddiadau
  • Cynllunio gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau

Ar ddiwedd y cwrs hyfforddiant dylai’r cyfranogwyr:

  • fod yn ymwybodol o strwythur, proses asesu a phroses atgyfeirio ar gyfer y gwasanaeth ailalluogi lleol
  • cymharu’r hen ‘ddull ymarferol’ gyda’r ffyrdd newydd o weithio, gan bwysleisio’r gwahaniaethau rhwng gofal, ailalluogi ac adsefydlu
  • wedi ystyried y ffyrdd newydd o weithio ac ymagweddau newydd gan ganolbwyntio ar ba sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr ailalluogi
  • meddu ar wybodaeth ynglŷn â strategaethau ar gyfer ailalluogi a pha ffactorau sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod ailalluogi yn llwyddiant
  • wedi ystyried risgiau cadarnhaol o safbwynt ailalluogi
  • yn ymwybodol o ystod o sgiliau a thechnegau cyfathrebu i roi cynnig arnynt gydag unigolion sy’n gwrthod cydweithredu
  • yn meddu ar wybodaeth well am ystod o gyflyrau meddygol, gan ystyried strategaethau ar gyfer rheoli cleientiaid gyda’r cyflyrau canlynol yn benodol e.e. strôc, OA, RA, COPD, dementia
  • wedi ystyried technegau codi a symud yn gorfforol h.y. trosglwyddo, cerdded â chymorth, technegau a strategaethau ar gyfer gwisgo ac ymolchi
  • meddu ar ymwybyddiaeth o asesiadau anffurfiol y bydd angen i weithwyr ailalluogi eu cyflawni o ddydd i ddydd
  • technegau gwisgo sydd wedi’u hymarfer
  • wedi ystyried pwysigrwydd offer fel modd o alluogi cleientiaid i fod yn annibynnol
  • wedi ystyried gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau - beth yw hyn?
  • ystyried cofnodi ac adrodd yn fanwl
  • cefnogi pobl i gael mynediad at eu hadnoddau eu hunain, teuluoedd, ffrindiau, y gymuned a’r gefnogaeth/gwasanaethau lleol sydd ar gael

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i ddod arno, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content