Oherwydd bod nifer y lleoedd yn brin, gallwn ond dderbyn un archeb fesul sefydliad ar y cwrs hwn.
Dyddiadau
- 2024: 11 a 12 Mai (cwrs yn llawn), 3 a 4 Mehefin, 17 a 18 Mehefin, 10 a 11 Gorffennaf, 15 a 16 Gorffennaf, 5 a 6 Awst, 11 a 12 Medi, 15 a 16 Hydref, 6 a 7 Tachwedd, 4 a 5 Rhagfyr
- 2025: 20 a 21 Ionawr, 5 a 6 Chwefror, 5 a 6 Mawrth
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 4:30pm
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Personal Care Consultants
- Grŵp targed:
Mae hwn yn gwrs dau ddiwrnod a rhaid mynychu’r dau ddiwrnod llawn.
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r cwrs hwn wedi ei anelu at ddechreuwyr newydd sydd yn gweithio mewn lleoliad gofal cymdeithasol.
Cynnwys y cwrs:
- Y gyfraith a goblygiadau cyfreithiol o godi a symud pobl.
- Asesu risg sefyllfaoedd, offer a phobl.
- Sut i godi a symud unigolyn mewn amrywiol sefyllfaoedd.
- Darparu gwybodaeth ar arfer gorau wrth godi a symud unigolyn
- Ystyried offer addas ar gyfer yr unigolyn a sut i archwilio offer e.e. sling, cymorth sefyll, teclyn codi, gwelyau. Mae hwn yn gwrs dau ddiwrnod.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.