Dyddiadau
Sesiynau bore, 9:30am tan 1pm
- 2024: 10 Mai, 19 Mehefin, 5 Gorffennaf, 4 Medi, 6 Tachwedd, 3 Rhagfyr, 8 Ionawr
- 2025: 6 Mawrth
Sesiynau prynhawn, 1pm tan 4:30pm
- 2024: 14 Hydref
- 2025: 12 Chwefror
Manylion y cwrs
- Lleoliad: Ar-lein trwy Zoom
- Hyfforddwr: Tim Dallinger, Social Care Consultants Ltd
- Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn
- Grŵp targed: Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r cyrsiau wedi’u dylunio i hybu egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 a bydd yn cynnwys:
- Llais a rheolaeth yr unigolyn
- Atal ac ymyrraeth gynnar - gan gynnwys adnabod arwyddion a symptomau gwallau, sgil effeithiau a llai o effeithiolrwydd.
- Lles – cefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain
- Cyd-gynhyrchu – annog unigolion i gyfrannu mwy at weinyddu eu meddyginiaeth
Mae’r cyrsiau hefyd wedi eu dylunio i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r RISCA 2016 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddio 2017 sy’n dod i rym ar 2 Ebrill 2018.
Bydd y cyrsiau’n canolbwyntio ar y polisi meddyginiaeth presennol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
- Nodi deddfwriaeth allweddol sy’n ymwneud â rheoli meddyginiaeth.
- Deddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
- Canllawiau statudol ar ddiwallu’r rheoliadau
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- NICE Rheoli meddyginiaethau mewn cartrefi gofal [SC1]
- NICE Rheoli meddyginiaethau ar gyfer oedolion sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn y gymuned [NG67]
Diffinio termau allweddol:
- Atgoffa
- Cynorthwyo
- Gweinyddu
- Diffinio’r term “meddyginiaeth” ac egluro’r gwahanol fathau o feddyginiaethau a sut maent yn gweithio
- Archwilio ffordd o weinyddu ac amser gweithredu
- Egluro termau gwrtharwydd a sgil effaith a'r adeg pan fo'r rhain yn fwyaf tebygol
Disgrifio pa wybodaeth sy’n gorfod bod ar:
- Bresgripsiwn
- Label meddyginiaeth
- Siart MAR
- Rhestru 5 hawl gweinyddu meddyginiaeth
- Arddangos sut i gwblhau siart MAR yn gywir
- Dangos sut i gwblhau gwybodaeth rheoli stoc yn gywir ar siart MAR
- Disgrifio sut i gefnogi pobl gyda meddyginiaeth drwy:
- Atgoffa
- Cynorthwyo
- Gweinyddu
- Nodi’r mathau mwyaf cyffredin o wallau meddyginiaeth, pam bod y rhain yn digwydd a sut i’w hosgoi
- Disgrifio’r broses ar gyfer dychwelyd meddyginiaeth
- Egluro pwrpas a phroses archwiliadau meddyginiaethau gan gynnwys archwiliadau siart MAR
- Arddangos sylfaen wybodaeth drwy arholiad aml-ddewis