Mae’r Tîm Dysgu a Datblygu'r Gweithlu wedi bod yn gweithio gyda Tim Dallinger o Social Care Consultants i gyflwyno ffordd newydd o gynnig hyfforddiant i ddysgwyr – yr hyn y gallwn ni ei gynnig yw cyflwyniad wedi’i recordio gyda sylwebaeth dan arweiniad gan Tim, ar destun Gofal Personol.
Gall y dysgwr wylio’r sesiwn 45 munud o hyd, pan fydd yn gyfleus iddyn nhw.
Cynghorir chi i wisgo clustffonau er mwyn cael profiad gwylio gwell.
Mae’r sesiwn yn trafod y canlynol:
- Diffiniadau Gofal Personol
- Dyletswyddau cyflogwyr a gweithwyr
- Argymhellion gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
- Rheoli ymataliaeth
- Iechyd y geg
- Cael bath a chawod
- Golchi gwallt
- Cefnogi pobl i wisgo