Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Canolbwyntio ar yr Unigolyn


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024: 27 & 28 Tachwedd 2024

Manylion y cwrs

  • Amser: 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru. 9.30am - 16.30pm
  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr: Tîm Trawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru
  • Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Gweithwyr Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyriadau, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, Gwasanaethau a Gomisiynir (Preifat, Annibynnol a Gwirfoddol).
  • Grŵp targed: Staff sy’n darparu cefnogaeth uniongyrchol i bobl ag anableddau dysgu, Rheolwyr gwasanaethau cymorth a gofal, Gweithwyr proffesiynol statudol neu yn y trydydd sector, rhieni sy’n ofalwyr, eiriolwyr, gweithwyr cymorth tai ac unrhyw bobl eraill sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cysyniad, yr egwyddorion a ffyrdd o ddefnyddio’r dull.

Nodau ac amcanion y cwrs

Trosolwg manwl ar ddeall a defnyddio adnoddau cynllunio craidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd hynny’n cynnwys Proffiliau un tudalen, Gweithio/Ddim yn Gweithio, Siartiau cyfathrebu, Trefniadau gwneud penderfyniadau, cofnodion dysgu, Paru staff, Cwestiynau 4 ac 1, Cylchoedd perthnasoedd a llunio Cynllun Cefnogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bydd y sesiwn yn trafod: Deall anghenion a dymuniadau hanfodol a dewisol dinasyddion a llunio cynllun cefnogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?