Beth maen nhw'n ei wneud;
Gwasanaethau Archwilio Mewnol – cynorthwyo’r Awdurdod i gyflawni ei amcanion drwy arfarnu mor effeithiol yw ei brosesau rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu a gwella’r prosesau hynny.
Caffael a Chontractau Corfforaethol – darparu gwasanaeth caffael a chontractau ar ffurf rheoli prosiectau a gweithgareddau caffael/tendro er mwyn sicrhau gwerth am arian wrth dalu am nwyddau, gwaith a gwasanaethau.
Uned Llywodraethu Gwybodaeth – cynorthwyo holl wasanaethau’r Cyngor i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, rhyddid gwybodaeth a rheoliadau gwybodaeth amgylcheddol drwy ddarparu cyngor a chyfarwyddyd a bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ceisiadau heb eu derbyn gan wasanaethau.
Uned Cwynion Corfforaethol – darparu gweithdrefnau trylwyr ar gyfer ymchwilio i gwynion am unrhyw wasanaeth a’u monitro, a defnyddio’r wybodaeth a ddysgir i wella ein gwasanaethau.