Beth maen nhw'n ei wneud:
Adnoddau Dynol - Cyngor AD arbenigol cyffredinol i reolwyr (a gweithwyr) ar bob agwedd o gylch gwaith gweithiwr.
Tegwch a Chydraddoldeb - Cefnogi’r sefydliad i gwrdd â’i gyfrifoldebau yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus a’r Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.
Datblygiad Sefydliadol - Cefnogi a dylanwadu’r sefydliad i ddatblygu, trawsnewid a gwella perfformiad i gyflawni ei botensial trwy brosesau, pobl a diwylliant.
Cynllunio Strategol ac Ymchwil - Defnyddio ymchwil a data i gefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau. Sicrhau fod Conwy yn cyflawni ein blaenoriaethau cenedlaethol a strategol.
Moderneiddio Corfforaethol - Rheoli prosiectau a rhaglenni sylweddol ledled y cyngor. Adolygu, diweddaru a hyrwyddo Fframwaith Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau’r Cyngor. Datblygu a chyflawni sesiynau hyfforddi ar y Fframwaith ar draws yr Awdurdod. Darparu cyngor a chefnogaeth i swyddogion ar draws y cyngor ar reoli prosiectau a rhaglenni.
Cyflawni Gwiriadau Iechyd ar Raglenni/Prosiectau. Cefnogi gyda recriwtio Rheolwyr Prosiect ar draws y Cyngor a mentora Rheolwyr Prosiectau presennol a newydd.
Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata - Cyfathrebu Corfforaethol, Cyfathrebu Mewnol Digidol, Rheoli Brand, Marchnata/Ymgyrchoedd: Digwyddiadau, Cynadleddau, Diwylliant a Chelfyddydau