Gwasanaeth Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol
Beth maen nhw'n ei wneud;
Cyllid Corfforaethol - Darparu ystod o gefnogaeth gyfrifyddol ac ariannol i bob gwasanaeth ac ysgolion. Cynhyrchu Datganiad Cyfrifon Blynyddol y Cyngor. Paratoi a monitro cyllidebau refeniw y Cyngor ar draws bob gwasanaeth ac ysgolion. Darparu ystod o swyddogaethau technegol i gefnogi’r Awdurdod mewn perthynas â chyfrifeg cyfalaf, rheoli'r trysorlys, TAW ac yswiriant.
Sicrhau bod anfonebau’n cael eu prosesu a bod taliadau’n cael eu gwneud yn unol â’r Cod Ymarfer Ariannol, Rheoliadau Ariannol a gofynion deddfwriaethol. Darparu cyngor a chefnogaeth i bob gwasanaeth sy’n gyfrifol am godi archebion.
Darparu gwasanaeth cyflogau cynhwysfawr gan gynnwys darparu cefnogaeth a chyngor i weithwyr a gwasanaethau ar faterion yn ymwneud â chyflogau a phensiwn.
Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid a chefnogaeth ar gyfer holl wasanaethau sy'n delio ag ymholiadau yn ymwneud ag anfonebau mân ddyledion ac incwm.
Rheoli systemau ariannol a datblygu technoleg a chefnogi holl systemau ariannol.
Cysoni holl incwm a dderbynir o fewn yr Awdurdod a chyfarwyddo polisïau a mentrau sy'n gysylltiedig ag incwm ar draws yr holl wasanaethau.
Arwain a datblygu systemau talu electroneg newydd o fewn yr Awdurdod. Sicrhau bod gweithrediadau'r Cyngor yn cydymffurfio bob amser â Safonau Diogelu Data'r Diwydiant Cardiau Talu (PCI DSS)
Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau
Beth maen nhw'n ei wneud;
Buddion - Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid Budd-daliadau Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor ac Asesiadau Ariannol. Ymdrin â chyfrifo, prosesu a chynnal systemau ar gyfer Budd-daliadau Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor, Taliadau Dewisol Tai, Buddion Addysg (Prydau Ysgol am Ddim a Grantiau Gwisg Ysgol), gan gynnwys adfer budd-daliadau/taliadau a ordalwyd a gweinyddu grantiau Llywodraeth Cymru eraill, yn ôl yr angen. Ymdrin â chyfrifo a phrosesu cyfraniad asesedig cleientiaid Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n derbyn gwasanaeth taladwy ar gyfer gofal preswyl neu amhreswyl.
Trethiant Lleol - Darparu gwasanaeth cwsmer gan ymdrin ag ymholiadau mewn perthynas â Threth y Cyngor, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol ac Adfer. Ymdrin â pharatoi a chynnal systemau a chofnodion ar gyfer Treth y Cyngor, cofnodion Trethi Annomestig Cenedlaethol a gweinyddu grantiau Llywodraeth Cymru eraill, yn ôl yr angen. Ymdrin â phrosesau adfer a chasglu dyledion ar gyfer Treth y Cyngor a Threthi Annomestig Cenedlaethol nad ydynt wedi cael eu talu, cyflwyno Rhybuddion Terfynol, Gwysion a Gorchmynion Dyled.
Ymdrin â phost sy’n dod i mewn at ddibenion sganio a mynegeio ar gyfer Gwasanaethau Asesu Refeniw a Budd-daliadau a Gwasanaethau eraill o fewn yr Awdurdod.