Beth maent yn ei wneud;
Cefnogaeth i Deuluoedd ac Ymyrraeth - Delio gyda phryderon am blant mewn perygl o gamdrin neu esgeulustod. Gweithio gyda theuluoedd lle nodwyd risg i'r plentyn, darparu asesiad ac ymyrraeth gan dimau arbenigol. Lle nad oes gwelliant, dechrau gweithdrefnau gofal.
Diogelu - Delio gyda phryderon yr adroddwyd am blant ac oedolion mewn perygl o gamdrin neu esgeulustod. Hybu Diogelu i staff CBSC a dinasyddion Conwy. Diogelu lles Plant sy'n Derbyn Gofal.
Plant sy'n Derbyn Gofal - Gofalu am les a gofal holl blant nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd am resymau fel salwch, esgeulustod neu gamdriniaeth.
Pobl Ddiamddiffyn - Darparu cefnogaeth i bobl â diffyg gallu meddyliol i reoli eu cyllid a materion eiddo eu hunain, gweithio gyda phobl â iechyd meddwl gwael a'u teulu/Gofalwyr. Darparu cefnogaeth i unigolion sy'n fregus ac/neu yn ddibynnol ar alcohol/cyffuriau a'r sawl nad ydynt yn dod o fewn y meini prawf ar gyfer gwasanaethau eraill. Cynorthwyo rhai sy'n gadael gofal ar gyfer annibyniaeth.
Cyfiawnder Ieuenctid - Gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill fel yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf a gwasanaethau carchar, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i atal plant a phobl ifanc rhag troseddu ac aildroseddu.