Beth maen nhw'n ei wneud;
Busnes, Polisi a Pherfformiad - Cefnogi datblygiad diwylliant rheoli perfformiad o fewn y Gwasanaeth Addysg ac ysgolion yr Awdurdod.
Rheoli Eiddo a Safleoedd - Cynllunio strategol a chyflawni Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr Awdurdod gan gynnwys ‘Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu’ a adnabuwyd yn flaenorol fel Ysgolion yr 21ain ganrif)
Gwasanaeth Iechyd a Lles - Darparu prydau blasus iach i gydymffurfio â rheoliadau a safonau bwyta’n iach mewn ysgolion Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen ysgol iach yn darparu polisïau a mentrau ar gyfer lles mewn ysgolion.
Gwasanaeth Gwella Addysg - Tîm sy’n gweithio o fewn cyd-destun gwerthoedd a nodau strategol Cyngor Sir Conwy a gofynion cenedlaethol ar gyfer darparu addysg er mwyn sicrhau addysg o ansawdd uchel i holl blant a phobl ifanc.
Gwasanaeth Cynhwysiant Cymdeithasol - Darparu cyngor a chefnogaeth i ddysgwyr sydd ag anawsterau ymddygiad neu gymdeithasol ac emosiynol i gael addysg. Mae'r gwasanaeth yn ceisio sicrhau fod Conwy yn darparu lle diogel a chynhwysol i ddysgwyr gael dysgu.
Anghenion Dysgu Ychwanegol - Cefnogi cynhwysiant a darpariaethau effeithiol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghonwy.
Gwasanaeth Cyflogaeth Conwy - ‘Siop Un Alwad ar gyfer cyflogadwyedd ar draws Sir Conwy’, maent yn darparu cymorth cyflogadwyedd cymunedol i rai 16 oed a hŷn, sydd â rhwystrau i gyflogaeth neu hyfforddiant ar draws y sir.
Gwasanaeth Ieuenctid Conwy - Gwaith Ieuenctid Cymunedol - darparu darpariaethau ieuenctid mewn cymunedau megis clybiau ieuenctid, prosiectau, bws symudol, gwaith ar wahân, ymweliadau carreg drws, Dug Caeredin.
Gwasanaeth Cyllid - Gwasanaeth ymgynghorol a chymorth ariannol cynhwysfawr i ysgolion.
Ysgolion Conwy
Yma yng Nghonwy, mae gennym:
- 52 Ysgol Gynradd (gyda 20 o ysgolion categori 1 cyfrwng Cymraeg)
- 7 Ysgol Uwchradd (gydag 1 ysgol categori 1 cyfrwng Cymraeg)
- 1 Ysgol Arbennig
- 2 Uned Cyfeirio Disgyblion (gydag 1 UCD ar 3 safle)
Mae gennym gyfanswm o bron i:
16,000 o ddysgwyr, 9,000 ohonynt mewn ysgolion cynradd a 6,500 mewn ysgolion uwchradd sy’n cynnwys dros 1,000 o ddysgwyr ôl 16.