Beth maen nhw'n ei wneud;
Mannau Agored - Cynnal parciau, gwarchodfeydd natur, mannau agored a lleiniau ymyl ffordd ar hyd a lled y sir. Cadw’r rhwydwaith ffyrdd i fynd, yn cynnwys llenwi tyllau, rhoi wyneb newydd ar ffyrdd, graeanu ffyrdd a gweithredu’r aradr eira yn y gaeaf. Gofal am fyd natur ac annog bioamrywiaeth. Clirio sbwriel a thipio anghyfreithlon a gwagio biniau cyhoeddus
Gwastraff - Rheoli gwastraff y sir. Gwneud pethau’n hawdd i bobl sy’n byw yng Nghonwy fod yn gynaliadwy ac ailgylchu gymaint â phosibl.
Rheoli Traffig a Rhwydwaith - Sicrhau bod y traffig yn symud a chadw ffyrdd yn ddiogel ac wedi’u goleuo. Lleihau tagfeydd os yn bosibl, yn cynnwys gwaith gwella diogelwch ar y ffyrdd. Darparu llwybrau newydd a gwell i annog teithio llesol (cerdded, olwynion, beicio). Sicrhau bod cynigion ar gyfer datblygiadau newydd a ffyrdd newydd yn ddiogel a chynaliadwy.
Rheoli Perygl Llifogydd ac Isadeiledd - Cyflawni goblygiadau cyfreithiol y Cyngor o ran rheoli llifogydd yn y sir, yn cynnwys arolygu a chynnal a chadw amddiffynfeydd morol a gylïau priffyrdd. Dylunio a chodi amddiffynfeydd arfordirol a chynlluniau lliniaru llifogydd. Darparu cyngor ar faterion draenio ac amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer datblygiadau newydd. Cynnal a chadw cyfarpar llefydd chwarae.
Cyfleusterau - Gofalu am adeiladau ac asedau’r Cyngor, yn cynnwys ysgolion a swyddfeydd, harborau, yr amlosgfa a’r mynwentydd, toiledau cyhoeddus a rhandiroedd.
Cludiant - Gofalu am fflyd y Cyngor, o geir y Cyngor i gerbydau graeanu. Gweithio gyda chwmnïau cludiant i wella cludiant cyhoeddus a chymorthdalu llwybrau bws pwysig. Darparu cludiant i ddysgwyr.
Ymgynghoriaeth Isadeiledd - Rheoli dyluniad technegol a chontractau prosiectau isadeiledd y Cyngor, yn bennaf ar gyfer adrannau eraill y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd, pontydd a cheuffosydd, muriau cynnal, llefydd chwarae, ysgolion, swyddfeydd ac adeiladau eraill, gwelliannau i ffyrdd a theithio llesol.
Cyllid a Gwasanaethau i Gwsmeriaid - Goruchwylio holl gyllidebau AFfCh, gan gynnwys y gwaith paratoi, monitro a rheoli. Darparu cymorth gweinyddol ac ariannol, cyflogau, rheoli adnoddau a diogelu i bob maes gwasanaeth AFfCh. Darparu Tîm Cyngor i Gwsmeriaid un pwynt cyswllt, sy’n ymateb i ymholiadau gan aelodau o’r cyhoedd a chwsmeriaid mewnol ar y pwynt cyswllt cyntaf, prosesu ceisiadau gwasanaeth a rheoli cwynion. Rheoli gweithgareddau cyfathrebu’r adran, sy’n hysbysu’r cyhoedd am wasanaethau a phrosiectau.
Gwella Busnes - Rheoli’r Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol gan weithio tuag at leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030, cefnogi meysydd gwasanaeth yr AFfCh i reoli iechyd a diogelwch a chydlynu gweithgareddau rheoli perfformiad yr AFfCh.
Systemau Gwbodaeth Rheoli - Gweinyddu, cefnogi a datblygu Systemau Gwybodaeth Rheoli’r AFfCh. Hyrwyddo defnyddio technoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio. Cefnogi gwelliannau i wasanaethau, effeithlonrwydd gwasanaethau a pharhad busnes ar draws yr adran.