Mewn argyfwng, ffoniwch 999 neu ewch i’ch adran Ddamweiniau ac Achosion Brys lleol.
Beth yw Cwnsela?
- Cynigir cwnsela i bobl ifanc er mwyn iddynt gael lle diogel i fwrw eu bol heb unrhyw farnu a heb iddynt fod ofn. Mae ganddynt ofod i siarad am y pethau sy’n peri ofn, pryder, dryswch neu ofid iddynt yn ogystal â meithrin gwytnwch, hunan-dderbyn a dealltwriaeth o’u profiadau all eu helpu i feithrin sgiliau ymdopi a lles emosiynol at y dyfodol.
- Therapi siarad yw cwnsela sydd yn helpu unigolyn i ddelio â’u problemau a llunio strategaethau er mwyn ymdopi a rheoli ar gyfer y dyfodol.
- Mae’n ofod preifat i siarad, a gall ddigwydd wyneb yn wyneb, dros y ffôn, trwy gyfrwng e-bost neu sgwrs fideo.
- Mae’n gyfrinachol rhwng y cleient a’r cwnselydd oni bai fod yna bryder ynghylch diogelu y bydd yn rhaid i’r cwnselydd ddweud wrth rywun yn ôl y gyfraith.
- Mae’n wasanaeth am ddim yn yr ysgol. Mae’r gwasanaeth ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a’r rhai sydd yn dysgu mewn lleoliadau addysgol eraill.
Sesiynau Cwnsela
- Yn ystod y sesiwn gyntaf gyda pherson ifanc, bydd y Cwnselydd yn egluro beth yw ffiniau cyfrinachedd, yn gwirio eu bod wedi deall yn llawn, ac o dan ba amgylchiadau y byddai’n rhaid torri cyfrinachedd.
- Mae Cyfrinachedd yn golygu nad ydi’r hyn rydych chi’n ei drafod yn cael ei rannu gyda rhywun arall. Mae yna rywfaint o eithriadau i hyn.
- Cynhelir y sesiynau yn yr ysgol a gallant bara hyd at 50 munud.
- Nid yw cwnselwyr yn rhoi cyngor nac yn dweud wrth bobl ifanc beth i’w wneud – yn hytrach, maent yn helpu pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau eu hunain er mwyn hwyluso twf personol a hunan-dderbyn.
Cyfrinachedd a Diogelu
- Nid yw cynnwys y sesiwn yn cael ei rhannu gydag unrhyw un, gan greu gofod diogel a chyfrinachol sydd yn galluogi’r person ifanc i weithio ar yr hyn sydd yn eu poeni heb ofn neu farn.
- Dim ond mewn amgylchiadau penodol y byddai gwybodaeth o sesiwn gwnsela yn cael ei rannu:
- Petai’r person ifanc yn datgelu eu bod mewn perygl o niwed neu
- Os ydynt yn gwybod am bobl eraill sydd yn cael eu niweidio neu’n bwriadu niweidio eu hunain neu bobl eraill.
Os ydych chi’n poeni am berson ifanc, ffoniwch:
Y Gwasanaethau Cymdeithasol: 01492 575111
Yr Heddlu: 999/101
Rydw i’n blentyn/person ifanc - sut alla’ i gael gafael ar y Gwasanaeth Cwnsela?
- Siarada gyda rhywun yn yr ysgol megis y person cyswllt, athro neu nyrs yr ysgol
- Atgyfeiria dy hun
- Gofyn i berson arall megis rhiant neu feddyg teulu neu e-bostio’r llinell gymorth: conwyps5@Hwbcymru.net
Gwybodaeth i Rieni/Gwarcheidwaid/Atgyfeirwyr
- Mae cwnsela yn ofod diogel i’r person ifanc i drafod pethau, nid yw’n golygu nad ydynt eisiau siarad gyda chi.
- Rydym ni’n croesawu cefnogaeth gan rieni/gwarcheidwaid.
- Mae pob sesiwn yn gyfrinachol ac oni bai bod y person ifanc yn datgelu mater sy’n ymwneud â diogelu, bydd cynnwys y sesiwn yn parhau rhwng y person ifanc a’u cwnselydd.
- Gall person ifanc dros 14 oed hunanatgyfeirio heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad cyn belled â’u bod wedi’u hasesu yn gymwys yn unol â Gillick*. Bydd plant mewn ysgol gynradd a hyd at flwyddyn 9 angen cael eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth gyda chaniatâd. *Cymhwysedd Gillick yw term sydd yn deillio yn Lloegr ac sy’n cael ei ddefnyddio mewn cyfraith feddygol i benderfynu a ydi plentyn (16 oed ac iau) yn gallu cydsynio i’w triniaeth feddygol eu hunain, heb yr angen am ganiatâd neu wybodaeth eu rhieni.
- Ar ôl i berson ifanc gael ei atgyfeirio i’r gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol, bydd yr atgyfeiriad yn cael ei drafod ym mhanel Cymedroli SBM (aml asiantaeth) er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei gynnig i’r person ifanc. Rhoddir gwybod am y canlyniad ac os yw’n briodol, bydd y person ifanc yn mynd ar restr aros a bydd yn cael cynnig apwyntiad maes o law. Os y penderfynir nad yw cwnsela yn yr ysgol yn briodol a bod gwasanaeth arall yn fwy addas, yna caiff hyn ei gynnig.
- Mae pob cwnselydd yn gweithio o fewn canllawiau a fframwaith moesegol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bacp.org.uk
- Mae’r cwnselwyr hefyd yn gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a chanllawiau cyfreithiol perthnasol. Mae’r tîm yn goruchwylio achosion yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael iddynt.
Y Tîm
- Mae’r tîm yn cynnwys cwnselwyr cymwys, mae ganddynt flynyddoedd o brofiad yn gweithio gyda phobl ifanc.
- Gellir trefnu apwyntiadau gyda chwnselwyr benywaidd neu wrywaidd, ac mae cefnogaeth ddwyieithog ar gael.
- Gall dulliau cwnsela gynnwys PC/BCT/DBT/ACT, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhain, ac maent yn cael eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion y myfyriwr (neu eu haddasu i’ch anghenion chi, mae’n dibynnu at bwy maent wedi’u hanelu).
- Mae rhai aelodau o’r tîm wedi’u hyfforddi i gyflwyno gwaith grŵp megis Tymhorau Tyfu, Sgiliau DBT, Cyfeillion am Oes a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid.