Mae’r Tîm ADY/Cynhwysiant yn gweithio’n agos gydag ystod o leoliadau (Ysgolion Cynradd ac Uwchradd a Lleoliadau Ôl-16). Maen nhw’n helpu’r lleoliadau hyn hyrwyddo:
- cynhwysiant addysgol a chymdeithasol llwyddiannus;
- deilliannau dysgu gwell;
- deilliannau lles gwell i’r holl blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghonwy.
Bydd gan bob lleoliad Athro/Athrawes/Swyddog ADY/Cynhwysiant wedi’i enwi a fydd yn arwain y gefnogaeth a gynigir i’r lleoliad hwnnw.
Mae gan y tîm o Athrawon/Swyddogion ADY/Cynhwysiant cymwys ystod o brofiad a hyfforddiant mewn nifer o feysydd arbenigol, yn cynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol, Addysgu a Dysgu, Iaith a Lleferydd, Dyslecsia a Dyscalcwlia.Wrth i’r cyfnod o Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol barhau drwy Gymru, bydd y Tîm hwn yn chwarae rhan allweddol drwy gefnogi ysgolion a rhieni wrth newid prosesau, sefydlu arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a gweithredu’r Cynlluniau Datblygu Unigol newydd.
Maen nhw’n helpu’r lleoliad i fodloni eu rolau statudol ac anstatudol.
Gall yr Athro/Athrawes/Swyddog ADY/Cynhwysiant ar gyfer pob lleoliad fynychu adolygiadau plant sydd â Chynllun Datblygu Unigol Ysgol/Awdurdod Lleol. Byddant yn cefnogi a chynghori lleoliadau ar werthuso ac adolygu Deilliannau ac effeithiolrwydd y Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol sydd ar waith i fodloni’r Deilliannau hyn.