Mae’r Tîm Allgymorth Awtistiaeth yn cynnwys tîm o Gymorthyddion Addysgu Arbenigol sy’n brofiadol mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag awtistiaeth a niwrowahaniaeth. Uwch Seicolegydd Addysg yw rheolwr atebol y tîm.
Ar gyfer pwy mae’r Gwasanaeth?
Mae'r tîm yn gweithio ar draws holl Ysgolion Cynradd Conwy, gan ddarparu gwasanaeth cynghori i staff addysgu a staff cymorth ysgolion cynradd prif ffrwd Conwy.
(Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, mae cyllid ar gyfer y maes hwn yn cael ei ddirprwyo i ysgolion uwchradd sy'n defnyddio'r cyllid ar gyfer eu cymorth eu hunain 'yn fewnol'. Bydd pob ysgol yn gallu darparu gwybodaeth am sut mae'r cymorth hwn yn edrych/yn cael ei gydlynu yn eu lleoliad unigol eu hunain).
Beth ydym ni’n ei wneud?
Nod y gwasanaeth yw helpu ysgolion Conwy i ddod i ddeall a darparu ar gyfer plant a phobl ifanc gydag awtistiaeth a phroffiliau niwrowahanol cysylltiedig. Gall hyn ddigwydd drwy:
- arsylwadau yn yr ysgol;
- datblygu targedau/amcanion;
- cyngor ar addasiadau amgylcheddol;
- datblygu a chyngor ar raglenni ymyrraeth penodol;
- hyfforddi a datblygu sgiliau staff;
- argymhellion ac adroddiadau ysgrifenedig;
- cyngor anffurfiol dros y ffôn ac ar lein;
- hyfforddiant EarlyBird i rieni ac ysgolion.
Sut mae cael gafael arnom ni?
Mae gan y gwasanaeth feini prawf atgyfeirio y mae'n rhaid i ysgolion ddangos eu bod wedi'u bodloni wrth lenwi ffurflen atgyfeirio'r gwasanaeth. Mae’r meini prawf mynediad hyn i’w gweld yn Nogfen Egwyddorion ADY Conwy.
Rhaid i ysgolion gael caniatâd rhieni i wneud atgyfeiriad.
Unwaith y bydd yr atgyfeiriad wedi'i dderbyn, bydd y tîm yn gweithio gyda'r ysgol i sefydlu'r ffyrdd mwyaf priodol o gynnig cymorth.
Dolenni allanol