Pwy ydym ni?
Darperir y Gwasanaeth Estyn Allan ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:
- tîm o Gynorthwywyr Addysgu Lleferydd ac Iaith Arbenigol;
- therapyddion Arbenigol Lleferydd ac Iaith - Seicolegydd Addysg.
Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?
Mae’r gwasanaeth ar gael i gefnogi plant oedran cynradd ac uwchradd a phobl ifanc sydd:
- ag Anhwylder Lleferydd a/neu Iaith, ac
- mae’r anhawster yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad/cynnydd yr unigolyn.
Beth ydym yn ei wneud?
- Mae’r gwasanaeth yn darparu therapi uniongyrchol a/neu gefnogaeth yn y dosbarth i blant a phobl ifanc yn eu hysgol prif ffrwd. Darperir y therapi gan y Cymhorthydd Addysgu dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol.
- Mae nifer y sesiynau therapi/cefnogaeth y mae bob plentyn yn eu derbyn yn ddibynnol ar yr angen clinigol sylfaenol a dwysedd y ddarpariaeth sydd ei hangen.
Sut mae cael gafael arnom ni?
- Mae gan y gwasanaeth feini prawf atgyfeirio y dylid eu bodloni.
- Os teimlir bod gan blentyn neu unigolyn ifanc anghenion sy’n bodloni meini prawf y gwasanaeth, bydd cais yn cael ei ystyried gan Banel Cymedroli ADY amlasiantaeth y sir ar ôl derbyn y wybodaeth hanfodol.
- Cyn i’r cais gael ei ystyried, bydd yr unigolyn yn derbyn ymyrraeth gan y Gwasaneth Therapi Iaith a Lleferydd.
Dolenni allanol