Nodau ac amcanion y cwrs:
Mae yna lawer o faterion pwysig i'w hystyried wrth ddelio â marwolaeth mewn Gofal Cymdeithasol, yr agweddau emosiynol ar ymdopi â salwch terfynol a marwolaeth unigolion sy'n cael cefnogaeth. Mae'r cwrs hwn yn helpu i'ch paratoi ar gyfer delio â'r materion emosiynol ac ymarferol sy'n ymwneud â marwolaeth, marw a phrofedigaeth.
Manylion y cwrs:
Hyd y cwrs: 50 munud yn cynnwys Cwis Asesu
- Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
- Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
- Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk
Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.