Nodau ac amcanion y cwrs:
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn effeithio ar bawb sy’n gweithio ym maes gofal. Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o beth yw'r Ddeddf Galluedd Meddyliol ac, yn bwysicach fyth, sut y gellir ei chymhwyso i'ch arferion gwaith bob dydd.
Manylion y cwrs:
Hyd y cwrs: 50 munud gan gynnwys Cwis Asesu
- Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
- Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
- Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk
Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.