Nodau ac amcanion y cwrs:
Sut allwn ni gymhwyso Urddas a Pharch yn ein gwaith a'n bywyd bob dydd? Sut ydyn ni’n ei arddangos? Wedi'i gynllunio i gyd-fynd yn llwyr â gofynion, gan eirioli arferion da, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r pwnc a sut y gallwch ei gymhwyso yn yr amgylchedd gofal cymdeithasol.
Manylion y cwrs:
Hyd y cwrs: 45 munud gan gynnwys Cwis Asesu
- Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
- Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
- Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk
Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.