Nodau ac amcanion y cwrs:
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i Weithwyr Gofal o beth yw Diabetes a sut y gallant nodi'r arwyddion a'r symptomau wrth ofalu am unigolion. Bydd y cwrs yn cynnig mewnwelediad i sut y gall Diabetes effeithio ar fywyd unigolion ac archwilio sut y gall Gweithwyr Gofal eu cefnogi drwy ddeiet, meddyginiaeth a chefnogaeth emosiynol.
Mae gan y cwrs hefyd Bennod wedi'i diweddaru ar Ddiabetes a’r Coronafeirws.
Manylion y cwrs:
Hyd y cwrs: 55 munud gan gynnwys Cwis Asesu
- Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
- Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
- Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk
Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.