Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Archwiliad o Gyfrifon 2023/24 ac Harbwr Conwy Archwiliad o Gyfrifon 2023/24
RHODDIR RHYBUDD yn ôl Adran 29 i 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau 21, 22 ac 24 o’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014:
1. O ddydd Llun 16 Medi hyd ddydd Gwener 11 Hydref 2024 yn gynwysedig (ag eithrio dyddiau Sadwrn a Sul), gall unrhyw un wneud cais i'r Cyfarwyddwr Strategol – Cyllid ac Adnoddau, Bodlondeb, Conwy am gael archwilio a gwneud copiau o gyfrifon yr uchod am y flwyddyn sy’n diweddu 31ain Mawrth 2024 a phob llyfr, gweithredoedd, biliau contractau, talebau a derbynebau perthynol. I gysylltu â’r Cyfarwyddwr Strategol - Cyllid ac Adnoddau allwch chi e-bostio Accountancy.technical@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 574000 os gwelwch yn dda fel y gallwn wneud trefniadau priodol ar gyfer archwilio.
2. Ar neu ar ol ddydd Llun 14 Hydref 2024 am 10.00 yb nes y caiff yr archwiliad ei gwblhau, gellir cysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolydd trwy Mike Jones yn 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu e-bost, Mike.Jones@audit.wales, ar gais unrhyw etholydd llywodraeth leol yn rhanbarth y cyfrifon, i roi cyfle i’r etholydd neu ei gynrychiolydd ddod gerbron yr archwilydd a gwrthwynebu unrhyw rai o’r cyfrifon. Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad gan, neu ar ran, unrhyw etholydd os na fydd yr Archwilydd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw o’r gwrthwynebiad y bwriedir ei wneud a’r rhesymau am hynny. Pan fydd etholydd yn anfon rhybudd i’r Archwilydd bydd raid iddo hefyd anfon copi o’r rhybudd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’r cyfeiriad isod.
3. Gellir cysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru Mr Adrian Crompton trwy Mike Jones yn 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu trwy e-bost, Mike.Jones@audit.wales
Amanda Hughes
Cyfarwyddwr Strategol – Cyllid ac Adnoddau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN
Dyddiedig: 29 Awst 2024