HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol â Rhan 4, Pennod 1, Adran 68, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithredu ar ran yr Awdurdod trwyddedu, am drwydded forol i gynnal gwaith ymchwilio tir i gynorthwyo cynllunio amddiffynfeydd morol gwell.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/
Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais RML2018.
Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn’.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i:
Tîm Trwyddedu Morol
Gwasanaeth Trwyddedu
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y rhybudd hwn, gan ddyfynnu cyfeirnod: RML2018
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad y gellir anfon gohebiaeth iddo.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu, yn trosglwyddo copi o unrhyw sylw neu wrthwynebiad a dderbynnir i’r ymgeisydd.
Dyddiedig 30 Gorffennaf 2020