Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n dymuno penodi unigolyn ymroddgar i wasanaethu fel Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. Gwahoddir ceisiadau gan rai â diddordeb sy’n uchel eu parch yn y gymuned ac nad ydynt yn wleidyddol; sy’n graff ac yn gywir ac sydd â chymeriad da ac union a’r gallu i gynnal cyfrinachedd.
Penodir Aelodau Annibynnol am gyfnod o rhwng pedair a chwe blynedd ac o bosib gellir eu penodi am dymor olynol o hyd at bedair blynedd. I wneud cais, bydd angen i chi allu dod i o leiaf 4 cyfarfod bob blwyddyn, a gynhelir dros y we ar hyn o bryd ond a gynhelir fel arfer ym Modlondeb, Conwy yn ystod y diwrnod gwaith arferol. Bydd cydnabyddiaeth ariannol i Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau. Mae Conwy wedi ymrwymo i gynnig cyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’n cymuned.
Yn ôl y gyfraith ni all unrhyw un o’r unigolion canlynol fod yn Aelod Annibynnol:
- Cynghorydd neu Swyddog o’r Cyngor (neu briod neu bartner sifil Cynghorydd neu Swyddog) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yr Awdurdod Tân ac Achub, Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gyngor Cymuned / Tref.
- Cyn Gynghorwyr neu Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
- Cyn Gynghorwyr neu Swyddogion o unrhyw Gyngor Sir neu Fwrdeistref Sirol, Awdurdod Tân ac Achub neu Awdurdod Parc Cenedlaethol arall tan o leiaf un flynedd ers peidio â bod yn Gynghorydd / Swyddog o’r Awdurdod hwnnw.
I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch ag www.conwy.gov.uk ac i gael ffurflen gais, cysylltwch â Gwasanaethau Pwyllgorau ar 01492 574675 neu anfonwch e-bost at pwyllgorau@conwy.gov.uk.
Dyddiad cau: 20/08/2021;
Cynhelir cyfweliadau ym Medi 2021 gan benodi ar 21/10/2021