Rhybudd o benodi stryd â chaniatâd at ddiben masnachu ar y stryd
Llanrwst: Stryd Siôr, Stryd Pari, Ffordd Llanddoged, Ffordd Tan yr Ysgol, Ffordd Newydd, Heol Dinbych, Heol Watling, Tan Y Graig, Glanrhyd, Ffordd yr Orsaf, Ffordd Gwydyr, Sgwâr Ancaster, Tan yr Eglwys, Bro Helyg
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982
Rhan III Atodlen 4 Masnachu ar y Stryd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynnal ymarfer ymgynghori yn unol â phob gofyniad statudol, ynglŷn â newid dynodiad Strydoedd yn ardal y Fwrdeistref Sirol, o stryd â gwaharddiad masnachu arni i fod yn stryd sydd â chaniatâd ar gyfer masnachu ar y stryd. Mae’r Cyngor drwy hyn yn rhoi rhybudd o’r bwriad i gymeradwyo penderfyniad i ailddynodi’r stryd a ganlyn sydd wedi ei chynnwys yn y Rhybudd hwn:
Stryd â Chaniatâd
Stryd Siôr, Stryd Pari, Ffordd Llanddoged, Ffordd Tan yr Ysgol, Ffordd Newydd, Heol Dinbych, Heol Watling, Tan Y Graig, Glanrhyd, Ffordd yr Orsaf, Ffordd Gwydyr, Sgwâr Ancaster, Tan yr Eglwys, Bro Helyg.
Dylid anfon unrhyw sylwadau ynglŷn â hyn yn ysgrifenedig at y cyfeiriad isod neu mewn e-bost at trwyddedu@conwy.gov.uk o fewn 28 niwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Dyddiedig: 7 Awst 2023
Mr Peter Brown (Masnachu ar y Stryd)
Pennaeth Gwasanaeth
Gwasanaethau Rheoleiddio a Thai
Coed Pella
Bae Colwyn
LL29 7AZ