Hysbysiadau ar gyfer Gwaith Lliniaru Llifogydd yng Nghynor Bwrdeistref Sirol Conwy
Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud gwaith lliniaru llifogydd yn y lleoliadau a nodir yn yr atodlen isod, dan Reoliad 5(1) y rheoliadau uchod, ac nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol gan mai gwaith i adnewyddu adeileddau sy’n bod eisoes yw hwn.
Cyfeirnod Prosiect: EP10C4
Lleoliad/Cyfeiriad: Gwaith Lliniaru Llifogydd - Afon Bach, Llansannan
Crynodeb Byr o’r Gwaith: Mae’r gwaith hwn yn cynnwys adeiladu ceuffos newydd sy’n fwy o ran maint, ar draws yr A544, ar ochr ogleddol y pentref. Gan ledu’r sianel a chynnal gwelliannau i’r nant drwy Delar Bach o flaen Llain Hiraethog. Disodli’r ceuffos pibellog yn Ffordd Gogor hyd ar Uwch yr Aled gyda ceuffos petryal concrid wedi'i rag-gastio newydd sy’n fwy o ran maint. Yn ogystal â hynny, byddwn yn tynnu’r sgrin bresennol i lawr at ben ceuffos A544.
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y cynllun arnoch, gwnewch gais dros e-bost i ERF@conwy.gov.uk
Bydd y gwaith yn cynnig mwy o gadernid i breswylwyr Llansannan rhag llifogydd, gan ganiatáu dŵr storm i lifo'n rhydd heb rwystro Afon Aled.
Dylai sylwadau neu wrthwynebiadau ynghylch y cais gael eu gwneud yn ysgrifenedig, gan roi cyfeiriad i anfon gohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r sylwadau neu wrthwynebiad, at Mr Geraint Edwards, Pennaeth Gwasanaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Ffordd Conwy, Mochdre, Bae Colwyn, LL28 5AB, cyn pen 30 niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn gan ddyfynnu cyfeirnod perthnasol y prosiect a nodir uchod.
28/07/21