Harbwr Conwy Archwiliad o Gyfrifon 2023-2024
HYSBYSIR DRWY HYN fod Archwiliad Cyfrifon yr uchod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 wedi’i gwblhau.
Yn unol â darpariaethau Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae’r Datganiad Cyfrifon ar gael i'w archwilio ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o dan “Cyngor” ac maent i'w gweld hefyd yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, o ddydd Llun tan ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc), rhwng 9.00 a.m. a 4.00 p.m.
Amanda Hughes ACA
Cyfarwyddwr Strategol (Cyllid ac Adnoddau) ACA
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU
Dyddiedig: 29 Ionawr 2025