Cymunedau am Waith a Mwy
Mae 2022-23 wedi bod yn flwyddyn brysur arall gyda’r Canolbwynt yn cefnogi 253 o gyfranogwyr i waith ac/neu fynychu cyrsiau hyfforddiant yn ogystal â helpu’r rheiny i oresgyn rhwystrau sylweddol i waith sy’n cynnwys:
- 31% gyda chyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio
- 17% gyda chyfrifoldebau gofalu neu ofal plant
Mae’r data ar gyfer y flwyddyn yn dangos bod y mwyafrif o gyfranogwyr (36.5%) wedi bod allan o waith am lai na chwe mis gyda dim ond 3% heb weithio o gwbl yn eu bywydau. Roedd yna hyd yn oed 12% o’r rheiny oedd wedi bod allan o waith am chwech i ddeuddeg mis a hefyd pum mlynedd a mwy.
Mae’r profiad helaeth sydd gan ein mentoriaid wedi galluogi’r Canolbwynt i sicrhau cyflogaeth ar gyfer cyfranogwyr ar draws y sectorau diwydiannau amrywiol sydd i’w cael yn y sir:
Mae 31% wedi cael swyddi yn y Sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth gyda sectorau eraill nodedig fel Logisteg, Adeiladwaith, Manwerthu, Gofal Cymdeithasol, Gofal Iechyd, Sector Cyhoeddus, Gwyrdd/Carbon Isel/Ailgylchu, Cludiant i Deithwyr, Diogelwch, Amaethyddiaeth ac Ynni/Cyfleustodau.
Mae’r Ganolbwynt hefyd yn chwarae rôl allweddol mewn mynd i’r afael â’r diffyg sgiliau gyda rhaglenni hyfforddi wedi’u targedu ar gyfer sectorau allweddol.
Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o bob math yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac i gydnabod yr heriau sydd o’n blaenau, mae’r canolbwynt wedi sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy.