Cynnydd
Mae’r prosiect Cynnydd yn cefnogi pobl ifanc 16-24 oed sy’n byw yng Nghonwy ac sy’n profi rhwystrau sylweddol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.Gan gynnig gwasanaeth mentora un i un, mae’r prosiect Cynnydd yn gweithio’n agos â TRAC, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, Mind Conwy, Oak Tree, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a Gyrfa Cymru.
Mae pobl ifanc yn cael eu cefnogi i gael mynediad i nifer o gyrsiau a rhaglenni hyfforddiant a gwaith gyda darparwyr fel Cyfle Cymru, Coleg Llandrillo, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Addysg Oedolion Cymru ac Agored yn ogystal â chael eu cyfeirio at asiantaethau perthnasol i adnabod cefnogaeth briodol.Gan ymgorffori cefnogaeth wyneb yn wyneb, mae prosiect Cynnydd yn gweithio gyda phobl ifanc i adeiladu ar eu hyder a hunan werth ar gyflymder eu hunain.
Gan gydnabod y rhwystrau sylweddol y mae pobl ifanc yn eu profi mae prosiect Cynnydd wedi derbyn 96 o atgyfeiriadau lle mae 29 o bobl ifanc wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a 24 o bobl ifanc wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaethau perthnasol yn unol â’u hanghenion.
Mae ymrwymo â’r prosiect Cynnydd yn golygu’r dechrau o ran unrhyw ymyrraeth gan wasanaethau neu gyrff proffesiynol gyda llawer o bobl ifanc yn profi arwahanrwydd cymdeithasol, problemau iechyd meddwl a diffyg sgiliau wrth adael ysgol. Mae’r prosiect Cynnydd yn darparu’r cyfle i adeiladu ar berthnasau o ymddiriedaeth gyda phobl ifanc gan ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ddatblygu, archwilio a darganfod cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw a’u cynnydd.
Astudiaeth Achos
Atgyfeirwyd AB i’r Prosiect Cynnydd gan Ganolfan i Deuluoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Canolog) Yn dilyn ymlaen o’r pandemig, teimlai AB nad oedd wedi gwneud yn dda yn yr ysgol ac roedd yn edrych i ddatblygu ei sgiliau craidd fel ei fod yn gallu mynd allan i weithio.
Dyma mentor yn cwrdd ag AB a thrafod y cyfle o gymryd rhan yn rhaglen ‘Sgiliau Gwaith’ Twf Swyddi Cymru + ac roedd ganddo ddiddordeb mawr ynddo.Eglurodd y mentor bob dim am y rhaglen wrth AB, sut yr oedd yn gweithio, lle y byddai’n cael ei ddysgu a’r hyn oedd ynghlwm â’r rhaglen.
Anfonodd y mentor ei fanylion ymlaen i Hyfforddiant Gogledd Cymru ond ar ôl ychydig o amser sylweddolwyd fod yna broblemau cyfathrebu. Trwy gyswllt rheolaidd gyda’r darparwr hyfforddiant ac AB a’i deulu, roedd y mentor yn gallu gwneud yn siŵr fod AB wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen. Mae AB bellach yn cymryd rhan yn y rhaglen yn rheolaidd ac yn ei fwynhau yn fawr iawn.