Ymgysylltu â Chyflogwyr
Mae ymrwymiad â’r cyflogwr yn parhau i fod yn rhan allweddol o raglen Canolbwynt.
Mae’r Canolbwynt yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda chyfranogwyr yn llwyddiannus mewn swyddi gweithwyr cefnogi a swyddi yn nhîm arlwyo’r ysgol.
Mae’r Canolbwynt wedi cydweithio ac wedi cyd-ariannu cwrs hyfforddiant gyrrwr bysiau gyda Alpine Travel, y cwmni bysiau annibynnol mwyaf yng Ngogledd Cymru. O ganlyniad mae nifer o gyfranogwyr yn gweithio i’r cwmni, gan gynnwys un sydd erbyn hyn yn fodlon iawn o gael gyrru pobl o gwmpas Ewrop ar eu gwyliau!
Mae’r cydweithio wedi ymestyn i sefydlu rhaglenni hyfforddiant Diogelwch Trac Personol gan Wasanaeth Rheilffordd Gogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin sydd wedi arwain at ddau gyfranogwr yn ennill cyflogaeth o fewn y sector adeiladu rheilffyrdd, ac wedi helpu eraill i sicrhau cyflogaeth gyda Morson, y trydydd cwmni recriwtio peirianneg mwyaf yn y byd.
Cyflwynwyd rhaglen o sesiynau gwybodaeth ar-lein gyda chyfranogwyr yn cael eu gwahodd i fynychu i ddarganfod mwy am weithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan arwain at lenwi pedair swydd wag yn nhîm iechyd a gofal cymdeithasol Conwy.
Dechreuodd y Ganolbwynt weithio ar Gynllun Gwarantu Cyfweliad gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a fydd yn galluogi cyfranogwyr i gael cyfweliad gyda’r Cyngor. Dim ond ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y cafodd hynny ei gymeradwyo a bydd yn cael ei weithredu yn ystod 2023.