Cymunedau am Waith a PaCE
Ym mis Mawrth 2023, daeth rhaglenni Cymunedau am Waith a PaCE (Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth) Llywodraeth Cymru i ben ers eu sefydlu yn 2015.
Yn ystod yr wyth mlynedd fe fuddsoddodd Llywodraeth Cymru £135 miliwn at raglenni Cymunedau am Waith a PaCE o dan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi yr UE.
Cymunedau am Waith
Roedd Cymunedau am Waith yn cael ei weithredu fel partneriaeth unigryw gydag Awdurdodau Lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid trydydd sector fel rhaglen cod post i helpu pobl ddi-waith ac anweithgar yn economaidd dros yr hirdymor yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o Gymru. Ers 2015, mae wedi helpu 37,000 o bobl a chefnogi 16,000 o bobl i gael gwaith.
PaCE
Mae PaCE yn rhaglen benodol ar gyfer rhieni sydd yn ceisio mynd i’r afael â’r brif rwystr o ofal plant sydd wedi eu hatal nhw rhag gweithio. Ers 2015, mae PaCE wedi gweithio gyda 7,500 o rieni ac wedi cefnogi 3,500 i gael gwaith.
Mae cyfranogwyr sy’n parhau i fod ar y Rhaglenni hyn ddiwedd Mawrth wedi cael eu trosglwyddo i Raglen Cymunedau am Waith a Mwy a fydd yn sicrhau parhad di-dôr o gefnogaeth a chymorth os ydyn nhw ei angen.