Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Gronfa Adfywio Cymunedol


Summary (optional)
start content

Y Gronfa Adfywio Cymunedol

Y Gronfa Adfywio CymunedolAr ddechrau Haf 2022, derbyniodd y Ganolbwynt y newyddion fod rhaglen Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn cael ei ymestyn am chwe mis arall.Roedd hynny’n golygu fod y Ganolbwynt wedi gallu rhoi cefnogaeth bellach a chyflwyno cyrsiau datblygu i deuluoedd sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol trwy ddefnyddio gweithgareddau anturus yn yr awyr agored i hybu cyfranogiad a chysylltiad, gan godi hyder, a gwella’r ffordd y mae teuluoedd yn cyfathrebu ac yn ymwneud â’i gilydd.

Daeth y datblygiad hwn ynghyd â phrosiectau eraill i ben ddiwedd Rhagfyr 2022 a chyflawnwyd y canlynol:

Hyder yn Dy Hun

Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar leihau ynysiad cymdeithasol, datblygu gwytnwch, cynyddu hyder/hunan-barch, datblygu sgiliau ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd, gwirfoddoli, ennill cymwysterau, gwella iechyd corfforol a meddyliol.

Roedd yn darparu cefnogaeth sylweddol i gyfranogwyr gyda gweithgareddau wythnosol yn cynnwys gwahanol fathau o hyfforddiant, gweithgareddau anturus, celf a chrefft, a chyflawnwyd y canlynol:

  • Cefnogwyd 56 o gyfranogwyr a dywedodd pob un fod y rhaglen wedi gwella eu cynhwysiad cymdeithasol a lleihau rhwystrau cymdeithasol
  • Mynychodd 46 o gyfranogwyr hyfforddiant neu sesiynau addysgol


Roedd yn eithriadol o lwyddiannus ac mae’r fideo pwerus 7 munud o hyd hwn ar Vimeo yn cynnwys cyfranogwyr yn siarad am eu prosiect, eu cefndir a sut y mae ‘Confidently You’ wedi trawsnewid eu bywydau.

Cwnsela Therapiwtig

Cwnsela a/neu hyfforddi tymor byr oedd hyn sy’n canolbwyntio ar waith i gefnogi pobl i oresgyn rhwystrau iechyd meddwl i gyflogaeth, dan arweiniad RCS Wales. Buont yn cefnogi 50 o gyfranogwyr a dywedodd 84% fod eu gallu i weithio wedi gwella o ganlyniad i’r ymyrraeth a dywedodd 84% fod eu hiechyd wedi gwella hefyd.

Coleg Adfer Iechyd Meddwl

Prif ganlyniad y prosiect hwn oedd Cynllun Arloesi i nodi’r sail ar gyfer Coleg Adfer Iechyd Meddwl i Gonwy.

Roedd y cynllun yn seiliedig ar ymgynghoriad, trafodaethau gyda budd-ddeiliaid a gwaith cyd-gynhyrchu gyda phobl oedd yn gwirfoddoli i gymryd rhan - fel unigolion sydd â phrofiad o iechyd meddwl ac fel cynrychiolwyr sefydliadau sydd am gymryd rhan. Dangosodd y Cynllun y byddai Coleg Adfer Iechyd Meddwl o fudd i’r sir ac mae ffynonellau cyllid yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd.

Cyrsiau Llwybr a Datblygiad

Roedd dwy elfen benodol i’r Rhaglen. Roedd y Cyrsiau Llwybr yn darparu hyfforddiant penodol i sectorau i gyfranogwyr sy’n barod am waith a oedd yn canolbwyntio ar sectorau y mae galw lleol amlwg amdanynt. Bwriad y Cyrsiau Datblygiad oedd ymgysylltu â phobl oedd yn bellach o’r farchnad lafur er mwyn ennyn eu diddordeb mewn dewisiadau datblygu fel rhan o daith hirach tuag at gyflogaeth.

  • Cynhaliwyd 36 cwrs
  • Cwblhaodd 149 o gyfranogwyr gwrs yn llwyddiannus
  • Cafodd 31 o gyfranogwyr gefnogaeth i gael gwaith
  • Cafodd 69 o gyfranogwyr gefnogaeth i ennill cymhwyster
  • Cafodd 24 o gyfranogwyr gefnogaeth i ymgysylltu â sgiliau bywyd
  • Enillodd 84 o gyfranogwyr gymwysterau nad ydynt wedi’u cofrestru â OFQUAL

Canolbwyntiau Adferiad mewn Llyfrgelloedd Cymunedol

Roedd hwn yn brosiect peilot a oedd yn darparu gwasanaethau mewn llyfrgelloedd y mae darparwyr gwasanaeth fel arfer yn eu darparu o’u heiddo eu hunain neu nad oeddent ar gael yn lleol. Roedd y cam yn llwyddiannus a defnyddiwyd y gwasanaethau 2,774 o weithiau, a chynhaliwyd 261 o sesiynau cefnogaeth a thrafodaeth gyda chyfranogwyr unigol a gobeithir y bydd hyn yn parhau.

Roedd y rhaglen CRF yn llwyddiant wrth gyflawni buddion economaidd i’r cyfranogwyr a hefyd ar gyfer y cyflogwyr o ystyried y sgiliau presennol a’r diffyg mewn llafurwyr, ac ni ddylid tanbrisio’r gwahaniaeth positif y mae’r prosiectau wedi’u cael ar fywydau nifer o bobl.

end content