Hyfforddiant
Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn seiliedig ar sicrhau fod cyfranogwyr yn cael y cyfle gorau i gyrraedd y gweithle gyda gwaith cynaliadwy trwy nifer o gynigion hyfforddiant. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys dull amrywiol i gefnogi eu anghenion i wella sgiliau trwy hyfforddiant a datblygu.
Mae’r Canolbwynt yn canolbwyntio ar gynnig nifer o lwybrau i ardaloedd o gyflogaeth wedi’u targedu er mwyn cwrdd ag anghenion cyflogwyr ac felly anghenion y farchnad leol, gan gynnwys llwybrau i adeiladwaith, gyrru cerbydau HGV, ailgylchu, hamdden a diogelwch, a gwella sgiliau cyfranogwyr sy’n dymuno mynd yn hunangyflogedig trwy lwybr y Cyfryngau Cymdeithasol. Mae’r holl lwybrau wedi cynnig cyfuniad o hyfforddiant ar sgiliau meddal a chyflogadwyedd, cymwysterau ardystiedig yn seiliedig ar y sector a phrofiad gwaith ymarferol.
Mewn partneriaeth gyda darparwyr lleol yn amrywio o’r trydydd sector i fusnesau annibynnol rydym yn darparu hyfforddiant a datblygiad gan gynnwys y canlynol:
- Crest
- Creu Menter
- ALG Security
- Road to Logistics
- Procure Plus
- Carmel Driving School
- TBC Marketing
- WOW Training
Yn ogystal â llwybrau mae’r Ganolbwynt wedi cynnig cyrsiau hyfforddiant ad hoc sy’n cyd-fynd â chynlluniau datblygu ein cyfranogwyr a gytunwyd arnynt gyda’u Mentor. Yn bennaf roedd y rhain yn ardystiadau yn benodol i ddiwydiant er mwyn gwella eu cyfleoedd o sicrhau cyflogaeth yn y maes o’u dewis, yn ogystal â rhai cymwysterau cyffredinol i gefnogi eu datblygiad. Roedden nhw’n cynnwys hyfforddiant mewn hylendid bwyd, iechyd a diogelwch, CSCS, llythrennedd sylfaenol yn ogystal ag adeiladwaith, gyrru, rhifedd, cymhwysedd digidol a iechyd a harddwch.
Mae’r Canolbwynt hefyd yn darparu cyfleoedd datblygu personol ac addysgol trwy ymyriadau cymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys fforio, teithiau addysgol yn ardal Conwy gydag arweinwyr lleol ac ymyriadau addysgol/cymdeithasol i deuluoedd a oedd yn cynnwys dyddiau allan mewn parc ecolegol lleol, sesiynau gwybodaeth ar faeth, ac ymweliad i’r Sŵ Fynydd Gymreig sy’n cynnwys sesiwn addysgol.
Mae nifer o’r ymyraethau, wedi’u hariannu trwy Gyllid Adnewyddu Cymunedol sy’n cefnogi 353 o bobl, wedi darparu 84 o gymwysterau Ofqual yn ogystal â llawer o gymwysterau sydd ddim yn Ofqual. Roedd hyn dros 36 o gyrsiau/digwyddiadau ar wahân gyda 180 o sesiynau a 1,155 o fynychwyr.