Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Claddedigaethau


Summary (optional)
start content

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau claddedigaeth, gan gynnwys claddedigaethau traddodiadol, coetir, Moslemaidd ac Iddewig.

Gwybodaeth am gladdedigaethau  |  Claddedigaethau: cwestiynau ac atebion  |  Claddedigaethau mewn coetir neu berllan  |  Gweddillion amlosgi  |  Claddedigaethau Moslemaidd  |  Claddedigaethau Iddewig  |  Claddedigaethau preifat ac yn y cartref  |  Claddu efo Cymorth Gwladol

Gwybodaeth am gladdedigaethau

Mae’r gofod ar gyfer bedd yn cael ei gloddio ar gyfer 1 neu 2 o bobl (mewn rhai mynwentydd gallwn gynnig bedd ar gyfer 3 o bobl) gyda’r dewis i roi gweddillion wedi’u hamlosgi ar ddyddiad arall.  Bydd y bedd yn cael ei gloddio a’i wisgo cyn i chi gyrraedd y fynwent.

Byddwn yn y fynwent i gwrdd â’r orymdaith angladdol a byddwn yn gwirio'r plac enw ar yr arch.  Bydd y cludwyr yn cario’r arch i ochr y bedd lle bydd yr arch yn cael ei gostwng i’r ddaear.

Gallwch daflu pridd neu flodau ar yr arch.  Unwaith y bydd y galarwyr wedi gadael y fynwent bydd y cloddwyr beddi yn llenwi’r pridd ac yn gosod y blodau angladd ar ben y bedd.  Bydd y bedd fel twmpath ar y pwynt hwn er mwyn i'r pridd setlo, ac efallai y bydd angen i ni roi mwy o bridd ar y bedd yn ystod y 12 mis cyntaf.

Bydd y blodau teyrnged yn cael eu tynnu ar ôl 3 wythnos i’n helpu ni i gadw’r fynwent mewn cyflwr glân a thaclus. Bydd angen i chi aros am 6 i 12 mis tan y gallwch osod carreg fedd gan fod angen amser i’r ddaear setlo.

Mae gan 7 o’n mynwentydd le ar gyfer claddedigaethau llawn: Bron y Nant, Llanrhos, Erw Hedd, Rhandir Hedd, Tan y Foel, Cae Melwr a Llangwstenin.

Mae mwyafrif y claddedigaethau yn cael eu trefnu trwy drefnwr angladdau a fydd yn delio â’r gwaith papur ar eich rhan.  Byddent yn gofalu am eich anwylyd tan ddiwrnod yr angladd ac yn darparu’r hers (a limwsinau ar gais) i fynd a chi i’r fynwent.  Os ydych yn dymuno trefnu claddedigaeth heb drefnwr angladdau, cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth a fydd yn gallu eich cynghori chi.

Am fwy o wybodaeth neu i drafod eich gofynion, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.

Claddedigaethau: cwestiynau ac atebion

content

content

content

 

Claddedigaethau mewn coetir neu berllan

Os yw'n well gennych chi angladd fwy naturiol, mae gennym ni ardaloedd claddu mewn coetiroedd a pherllannau.  Ar ôl claddu byddwn yn plannu coeden ar ben y bedd a fydd yn gofeb barhaol i’ch anwylwyd. Bydd y coetir a’r berllan yn dod yn hafan i fywyd gwyllt gan ddarparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt lleol.

Ar ôl plannu’r goeden ni fydd modd ail-dorri’r bedd felly mae’r lleiniau hyn ar gyfer un bedd yn unig. Fodd bynnag, bydd rhwydd hynt i chi gladdu gweddillion wedi’u hamlosgi gan na fydd hynny’n effeithio ar wreiddiau’r goeden. Nid yw’r coetiroedd yn cael eu cynnal a’u cadw mor aml â mynwent gyffredin, a hynny i annog bioamrywiaeth. Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu torri ddwywaith y flwyddyn. Mae’r perllannau yn cael eu cynnal a’u cadw’n fwy rheolaidd, ond nid i’r fath raddau â mynwent lawnt.

Mae yna gyfyngiadau o ran cofebion a theyrngedau yn yr ardaloedd hyn, felly cofiwch ystyried claddedigaeth mewn coetir neu berllan yn ofalus a holi ein staff os oes arnoch chi angen mwy o wybodaeth

Claddedigaethau mewn coetir neu berllan: cwestiynau ac atebion

content

content

content

content

content

content

 

Gweddillion amlosgi

Mae nifer o opsiynau a phethau pwysig i’w hystyried wrth gladdu neu wasgaru llwch. Os ydych chi’n gwasgaru’r llwch dan dywarchen bedd sy’n bodoli eisoes, ni fydd modd ei gael yn ôl. Os ydych chi’n claddu’r llwch mewn bedd newydd neu un sy’n bodoli eisoes, bydd arnoch chi angen trwydded arbennig gan y llywodraeth i’w dynnu oddi yno.

Gallwch ddewis claddedigaeth a gwasanaeth byr a dweud unrhyw eiriau yr hoffech, canu neu ddarllen gweddi neu gerdd, cyn i chi (neu aelod o’r Gwasanaethau Profedigaeth) roi’r gweddillion yn y ddaear. Mae’n rhaid i’r llwch fod mewn cynhwysydd bioddiraddadwy gydag enw’r ymadawedig arno’n glir.

Rydym ni’n cynnig lleiniau i weddillion wedi’u hamlosgi ym mynwentydd Abergele, Bron y Nant, Erw Feiriol, Llangystennin, Llanrhos a Than y Foel. Beddau bach yw’r rhain, sydd â lle i hyd at 4 set o weddillion wedi’u hamlosgi. Os hoffech chi gladdu llwch mewn bedd sy’n bodoli eisoes, bydd arnoch chi angen caniatâd perchennog y bedd.

Claddedigaethau Moslemaidd

Rydym yn darparu ardal ym Mynwent Lawnt Llanrhos ar gyfer claddedigaethau Moslemaidd.

Bydd beddau Moslemaidd yn cael eu paratoi yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gyda'r gymuned Foslemaidd ac yn unol ag arferion Moslemaidd. Bydd y bedd yn cael ei alinio i gyfeiriad Mecca ar echel gogledd-ddwyrain i dde-orllewin.

Claddedigaethau Moslemaidd: cwestiynau ac atebion

content

content

content

 

Claddedigaethau Iddewig

Mae'r ardal claddedigaethau yn Llanrhos yn cael ei weinyddu yn ôl traddodiadau Iddewiaeth ryddfrydig, gan adael i deulu'r ymadawedig benderfynu ar y trefniadau a sut i alaru ar ôl hynny.

Gall Rabi ag arweinyddion cynulleidfaol roi cyngor ac esbonio arferion Iddewig lle bo angen hynny, ond ein polisi ni yw gadael i deuluoedd ac unigolion wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Disgwyliwn na fydd angladdau yn cael eu cynnal ar y Sabath (dydd Sadwrn) - mae claddedigaethau ar gael ar gyfer pob diwrnod arall yr wythnos.  Mae beddi'n cael eu torri ar gais y teuluoedd a gellir claddu hyd at dri ynddynt.

Claddedigaethau Preifat ac yn y Cartref

Ambell waith bydd rhywun yn dymuno cael ei gladdu yn nhir ei eiddo, ac o safbwynt iechyd amgylcheddol, does dim cyfraith sy'n atal claddedigaeth ar dir preifat cyn belled â bod dim perygl i iechyd y cyhoedd.

Mewn claddedigaethau o'r fath mae rheoliadau a threfnau penodol y mae'n rhaid eu dilyn, yn ogystal â gofynion technegol ar gyfer safle'r gladdedigaeth.

Er mai dewis yr unigolyn neu eu perthnasau yw'r plot claddedigaeth, dylid ystyried y goblygiadau ymarferol a thymor hir fel gwerth yr eiddo a'r posibilrwydd y bydd y teulu'n symud tŷ yn y dyfodol.

Claddu â Chymorth Gwladol

Mae achlysuron pan fydd rhywun yn marw ac nid oes perthnasau neu ffrindiau i drefnu angladd. Os na ellir gwneud trefniadau addas, gallwn roi cymorth i gladdu neu amlosgi yr unigolyn sydd wedi marw. Yn yr amgylchiadau hyn bydd trefniadau'r angladd yn cael eu gwneud gan y trefnwr angladdau a ddewiswyd gan y Cyngor, felly mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni cyn gwneud unrhyw drefniadau gydag ymgymerwr arall. Os nad yw'r unigolyn sydd wedi marw wedi nodi p'un a oeddent am gael eu claddu neu eu hamlosgi, byddwn yn amlosgi'r corff.

Byddwn yn trefnu gwasanaeth angladd syml er na fydd hyn yn cynnwys darparu blodau, cludiant (ar wahân i'r hers) na rhybuddion mewn papurau newydd lleol. Bydd cyngor yn cael ei roi ar y rhain a threfniadau eraill angenrheidiol.  Bydd y seremoni angladd yn cael ei chynnal gan gyd-fynd mor agos â phosibl â chredoau'r unigolyn marw, a chynhelir gwasanaeth capel yn yr amlosgfa. 

Os yw'r unigolyn wedi gadael unrhyw arian yn y banc/cymdeithas adeiladu, mewn polisi yswiriant neu bensiwn bydd hwn yn cael ei ddefnyddio tuag at gost yr angladd. Os oes unrhyw eiddo personol, bydd y Cyngor yn gwneud trefniadau i gael gwared ar yr eitemau hyn. Os yw'n bosibl, bydd eiddo'n cael ei werthu a'r arian yn cael ei ddefnyddio i dalu cost yr angladd.

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.

end content