Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trefnu angladd


Summary (optional)
start content

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Mae trefnu angladd yn gallu bod yn dasg anodd iawn ond mae ein staff a’ch trefnydd angladdau yn gallu helpu a darparu cyngor ymarferol i chi.

Ein capeli  |  Amseroedd gwasanaethau  |  Personoli  |  Blodau a rhoddion  |  Ffydd  |  Babanod a phlant

Ein capeli

Mae gennym ni ddewis o ddau gapel ym Mron y Nant ym Mochdre, Capel y Fynwent a Chapel yr Amlosgfa, gyda digon o gyfleoedd i chi bersonoli’r gwasanaeth i’ch anwylyd. I archebu un o'r ein capeli ffoniwch 01492 577733.

Drwy ddefnyddio cyflenwr allanol, gallwn eich helpu chi i weddarlledu eich gwasanaeth o’r capel. Holwch ni am y manylion

Capel y Fynwent

 

Mae Capel y Fynwent yn lleoliad ar gyfer gwasanaethau preifat. Gellir defnyddio’r capel ar gyfer gwasanaeth claddu, gwasanaeth cyn traddodi, gwasanaeth coffa mewn unrhyw ffydd ac unrhyw achlysur addas arall.

Mae yna le i 100 o bobl eistedd. Dydi’r cadeiriau ddim yn sownd ac felly gellir eu trefnu yn unol â’ch anghenion. 

Mae Capel y Fynwent yn cynnwys y cyfleusterau canlynol:

  • Chwaraewr CD
  • organ
  • piano
  • teyrngedau blodeuog parhaol (gwyn)
  • mynediad i bobl anabl

Capel yr Amlosgfa

 

Mae gan Gapel yr Amlosgfa ym Mron y Nant le i 100 o bobl eistedd a lle ychwanegol dan do i bobl sefyll. Defnyddir y capel hwn ar gyfer gwasanaethau amlosgi yn unig.

Mae gan y capel gyfleusterau teyrngedau fideo a gweddarlledu, yn ogystal â system gerddoriaeth Obitus i chi chwarae cerddoriaeth yn y capel, yr ystafell aros a’r tu allan i alarwyr ychwanegol. Mae yna hefyd fynediad i bobl anabl a dolen clyw.

Mae Capel yr Amlosgfa yn cynnwys y cyfleusterau canlynol:

  • cyfleusterau ychwanegol (sefyll yn unig): portsh a chanopi
  • organ
  • System gerddoriaeth Obitus (codir ffi am hyn)
  • dwy sgrin arddangos - gellir arddangos teyrngedau gweledol drwy gydol y gwasanaeth, fel ffotograff unigol, sioe sleidiau neu fideo (codir ffi am hyn)
  • teyrngedau blodeuog parhaol (gwyrdd)
  • mynediad i bobl anabl
  • dolen clyw

Amseroedd gwasanaethau

Mae ein cyfleusterau ar gael rhwng 8.30am a 4pm ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.30am a 3.30pm ddydd Gwener.

Fel rheol, cynhelir gwasanaethau yn ein capeli bob 45 munud. Mae gwasanaethau fel rheol yn para 30 munud, gyda 15 munud i bobl gyrraedd a gadael.

Os ydych chi’n disgwyl nifer fawr o siaradwyr a galarwyr, neu os oes gennych chi drefn gwasanaeth hirach, fe allwch chi archebu dau slot am ffi ychwanegol. Cofiwch, os ydi’ch gwasanaeth yn para’n hirach na’r disgwyl bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau eraill y dydd, a all beri gofid i deuluoedd eraill.

Mae’n bosib’ y byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth a chladdedigaeth ddydd Sadwrn am resymau crefyddol. Ni allwn gynnig gwasanaeth amlosgi ar benwythnosau. Nid ydym chwaith yn gallu cynnig gwasanaethau ar wyliau banc.

Personoli

Mae angladdau yn achlysuron personol iawn ac mae arnom ni eisiau i chi gael gwasanaeth sy’n berffaith i’ch teulu a’ch anwylyd. Does dim cyfyngiadau o ran sut cewch chi dreulio eich amser yn y capel ac mae croeso i chi gael unrhyw weddi, darlleniad, barddoniaeth neu deyrnged o’ch dewis.

Fel rheol caiff y seti eu trefnu mewn rhesi ond gellir eu symud yn unol â’ch anghenion. Mae croeso i anifeiliaid anwes ddod i wasanaethau yn y ddau gapel. 

Cerddoriaeth a phethau wedi'u recordio

Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o wasanaeth angladd ac rydym ni’n gwneud ein gorau glas i wneud yn siŵr bod y gerddoriaeth sydd ar gael yn eich helpu chi i fyfyrio ar fywyd a chymeriad eich anwylyd.

Gallwch ddewis eich cerddoriaeth eich hun i’w chwarae cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth.

Mae cerddoriaeth ar gael yng Nghapel yr Amlosgfa drwy’r system Obitus ac rydym ni hefyd yn gallu lawrlwytho eich recordiadau chi ar y system. Bydd ar eich trefnydd angladdau angen gofyn i Obitus am eich cerddoriaeth a’ch teyrngedau gweledol 48 awr cyn y gwasanaeth. Mae ffioedd Obitus yn seiliedig ar eich gofynion.

Mae yna chwaraewr cryno ddisgiau yng Nghapel yr Amlosgfa i chi ei ddefnyddio am ddim.

Mae organ ar gael yn y ddau gapel (am ddim) a chroesawir offerynnau cerdd eraill hefyd.

Blodau a rhoddion

Os ydych chi’n cael casgliad, mae gennym ni blât rhoddion i chi ei ddefnyddio yn ystod y gwasanaeth.

Ar ôl gwasanaeth claddu, fel rheol bydd eich trefnydd angladdau yn mynd â’r teyrngedau blodau i’r man claddu. Ar ôl gwasanaeth amlosgi, byddwn yn gosod y teyrngedau blodau wrth ymyl enw’ch anwylyd ar y cwrt y tu ôl i Gapel yr Amlosgfa.

Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n mynd ag unrhyw deyrnged efo chi ar ddiwrnod y gwasanaeth, neu mae croeso i chi eu gadael yn ystafell y Llyfr Cofio.

Mae’r tir o amgylch yr amlosgfa yn gartref i fywyd gwyllt sy’n gallu difrodi teyrngedau blodau. Nid ydym ni’n derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw deyrnged sy’n cael ei gadael ar ein tir. 

Ffydd

Mae croeso i bob ffydd a dim ffydd yn ein capeli.

Fel rheol mae yna groes ar flaen Capel yr Amlosgfa, ond gallwn ei thynnu neu ei symud ar gais.

I rai pobl mae gweld yr arch yn cael ei rhoi yn y ffwrnais amlosgi yn rhan bwysig o’u ffydd. Gallwn drefnu hyn i hyd at 6 o bobl – gadewch i ni wybod ymlaen llaw er mwyn i ni allu trefnu pethau.

Mae’n bosib’ y byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth a chladdedigaeth ar ddydd Sadwrn am resymau crefyddol. Ni allwn gynnig gwasanaeth amlosgi ar benwythnosau.

Babanod a phlant

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth amlosgi neu gladdu am ddim i blant a phobl ifanc dan 18 oed, sy’n cynnwys defnyddio’r capel ar gyfer y gwasanaeth a defnyddio’r cyfleusterau teyrngedau gweledol a sain am ddim. Bydd Capel yr Amlosgfa ar gael i chi drwy’r dydd, heb gyfyngiadau amser.

Pa un ai ydi’ch plentyn wedi marw yn yr ysbyty neu’n rhywle arall, chi sy’n dewis lle rydych chi’n cynnal y gwasanaeth a’r claddu neu’r amlosgi. Does dim rhaid i chi ddewis y lle agosaf at yr ysbyty.

Os ydych chi’n dewis amlosgi, byddwch yn cael y llwch mewn wrn bach ar y diwrnod gwaith nesaf.

Mae gennym ni ardd bwrpasol, Gardd y Plant, lle fedrwch chi wasgaru’r llwch neu eu rhoi gyda chofebion. 

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.

end content