Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cofebion a choffadwriaeth


Summary (optional)
start content

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Cofio’ch anwyliaid yn eich ffordd eich hun.

Gardd goffa  |  Cofebion a cherrig beddi  |  Llyfr coffa  |  Gardd y plant  |  Gwasanaethau coffa  |  Meinciau  |  Amlenni coffa

 

Gardd goffa

Mae ein Gardd Goffa ym Mron y Nant mewn dwy ardal: yr Ardd Rosod a’r Ddôl Uchaf. Maen nhw’n cael eu cynnal a’u cadw’n daclus gan ein tîm garddio profiadol ac yn llefydd tawel i fynd iddyn nhw i fyfyrio.

Mae’r Ardd Rosod yn cynnwys deg gwely rhosod o liwiau gwahanol. Mae croeso i chi wasgaru llwch eich anwylyd yn y gwely rhosod. Mae modd gosod placiau coffa ar y borderi pren sydd o amgylch y gwelyau.

Mae’r Ddôl Uchaf ym Mron y Nant yn ardal laswelltog gyda choed aeddfed ac ifanc. Mae’r ardal wedi’i mapio yn fetrau sgwâr ac os ydych chi’n dewis gwasgaru llwch yma byddwch yn cael rhif sy’n cyd-fynd â’r ardal honno. Mae croeso i chi osod blodau ffres ar y gwair.

Gan fod yr ardaloedd hyn yn ardaloedd cymunedol, gofynnwn i chi beidio â rhoi cofebion yma. Bydd cofebion a roddir yma yn cael eu symud a’u cadw yn y swyddfa i chi eu casglu. Mae gennym ni goeden goffa yn yr ardal hon gyda dail y gellir eu hysgythru er cof am eich anwylyd.

Mae croeso i chi adael teyrngedau Nadolig. Caiff teyrngedau Nadolig eu symud o’r Ardd Goffa ar 31 Ionawr pob blwyddyn. Caiff teyrngedau Nadolig eu symud o’n mynwentydd ar 15 Chwefror bob blwyddyn. 

Cofebion a cherrig beddi

Mae cofeb yn deyrnged barhaol i’ch anwylyd ac mae ein staff hyfforddedig yn gallu’ch helpu chi i ddewis yr un fwyaf addas i chi a’ch teulu.

Gall cofebion gynnwys cerrig coffa, cofebion cilfach gyda’r llwch wedi’u gosod y tu ôl iddyn nhw, tyrrau a chladdgelloedd gyda phlaciau a’r dewis o roi’r llwch y tu ôl i gofebion gwenithfaen, marmor neu borslen, a meinciau coffa.

Rydym yn darparu placiau coffa ar gyfer bob cyllideb, gyda phrisiau’n dechrau ar £80.   Mae ein hopsiynau diweddaraf o ran cofebion yn yr Ardd Goffa.  Mae gennym goeden ferwydden liwgar yn y Ddôl Uchaf lle gallwch ychwanegu deilen gydag enw eich anwylyd wedi’i arysgrifio arni neu’r placiau yn yr Ardd Rosod lle gallwch arysgrifio lluniau arnynt.   Mae’r placiau ar gael i’w prydlesu am 10 mlynedd, a bydd modd ymestyn y cyfnod hwn.

Mae ein staff ar gael i’ch helpu chi gyda’r broses o brynu carreg goffa, ac rydym ni’n argymell eich bod chi’n siarad efo ni cyn prynu un. Mae’n rhaid i bob carreg goffa gael ei chymeradwyo cyn ei gosod.

I wneud cais am drwydded i osod carreg goffa, mae’n rhaid i chi fod yn berchen ar y bedd ac mae’n rhaid i chi ddefnyddio saer maen cofebion sydd wedi cofrestru â BRAMM. Os nad chi ydi perchennog y bedd yna bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen Trosglwyddo Bedd.

Llyfr coffa

Mae gennym ni hen lyfr a llyfr newydd ar ddangos yn ystod oriau agor y swyddfa. Caiff tudalennau’r llyfrau eu troi pob dydd pan fydd y swyddfa ar agor neu fe allwn droi at ddyddiad penodol ar gais.

Mae yna gopi digidol o’r llyfrau ar sgrin gyffwrdd y tu allan i swyddfa’r amlosgfa, sydd ar gael 24 awr y dydd pob dydd. Mae’r llyfrau hefyd ar gael ar-lein.

Gardd y plant

Mae ein Gardd y Plant wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli plentyn a phlant sydd wedi colli brawd neu chwarae neu riant.

Mae Dora’r llygoden yn gweld eisiau ei mam ac yn dyheu am gael dweud hynny wrthi. Mae ei ffrindiau yn y pentref yn ei helpu hi i ysgrifennu llythyr a’i anfon at ei mam yn y nefoedd. Gall teuluoedd ysgrifennu llythyrau at eu hanwyliaid a’u rhoi yn y blwch post yng Ngardd y Plant.

Gellir gwasgaru llwch yn yr ardd neu eu rhoi mewn cofeb. Mae cofebion ar gael a gellir ysgythru manylion y plentyn arnyn nhw.

Gwasanaethau coffa

Rydym ni’n cynnal gwasanaeth blynyddol i bobl ddod at ei gilydd i gofio anwyliaid sydd wedi marw.

Meinciau

Mae meinciau yn ffordd draddodiadol i gofio anwylyd. Gallwch brynu mainc o’n hamrywiaeth o ddewisiadau, i’w gosod yn y fynwent neu yn yr Ardd Goffa. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ddewis lleoliad addas, yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer eich mainc ac yna’n darparu plac gyda’ch geiriau dewisol.

Amlenni coffa

Mae ein hamlenni coffa yn 100% ailgylchadwy a bioddiraddadwy gyda lluniau o lefydd yng Nghonwy arnyn nhw. Y tu mewn i’r amlen mae yna bapur blodau gwyllt i chi ysgrifennu nodyn byr neu dynnu llun i anwylyd arno. Gallwch blannu’r rhain gartref neu eu postio yn ein blwch llythyrau yng Ngardd y Plant. Mae yna hefyd baced bach o hadau blodau gwyllt y gallwch chi eu gwasgaru gartref.

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.

end content