Mae’r estyniad newydd i Fynwent Llanrhos wedi’i neilltuo ar gyfer claddedigaethau ecogyfeillgar, wedi’i chynllunio i roi anwylyn i orffwys yn sensitif mewn modd ystyriol gyda chyn lleied o effaith ar yr amgylchedd â phosib’.
Rheoliadau arfaethedig | Cwestiynau ac atebion | Arolwg
Fe hoffem ymgynghori â chi ynglŷn â’n gweledigaeth o ran sut i reoli’r estyniad newydd yn y fynwent yn Llanrhos. Am y tro cyntaf yn Sir Conwy, mae gennym gyfle i gael Mynwent Werdd. Hoffem i chi ddarllen drwy'r rheolau arfaethedig a'r wybodaeth ac ateb arolwg byr i roi eich barn i ni.
Rheoliadau arfaethedig ar gyfer Mynwent Werdd Llanrhos:
content
Os ydych yn dewis i’r sawl sydd wedi marw gael eu claddu mewn arch, mae’n rhaid iddi fod yn un ecogyfeillgar. Mae eirch ecogyfeillgar wedi’u gwneud o ddeunyddiau cynaliadwy sydd â chyn lleied o effaith ar yr amgylchedd â phosib’ trwy helpu i warchod coetiroedd, defnyddio llai o blastigion neu baent niweidiol a defnyddio deunyddiau bioddiraddadwy yn unig
Gall eirch fod wedi’u gwneud o fambŵ, cardfwrdd, helyg, pren heb ei drin, pren wedi’i ardystio gan Gyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC)
Ni chaniateir eich wedi’u gwneud o argaen pren.
Dylai eirch fod â leinin cotwm neu liain tenau yn hytrach na phlastig. Ni chaniateir defnyddio unrhyw blastig, sinc na phitsh yn y leinin nac yn strwythur yr arch.
Ni chaniateir handlenni, addurniadau na phlatiau enwau o blastig na metel ar eirch. Mae’n rhaid i’r rhain fod wedi’u gwneud o ddeunyddiau bioddiraddadwy fel pren, rhaff neu gardfwrdd.
content
Yn hytrach nag arch, gallwch ddewis amwisg gladdu. Gall amwisgoedd fod wedi’u gwneud o amryw wahanol ddefnyddiau, fel cotwm, lliain tenau, mwslin, cywarch (hemp), sidan
Sylwch y bydd angen plât enw cardfwrdd neu bren yn sownd wrth yr amwisg at ddibenion adnabod.
content
Dylai’r sawl sydd wedi marw gael eu gwisgo mewn dillad wedi’u gwneud o ddefnydd naturiol fel cotwm, gwlân neu liain tenau. Ni chaniateir defnyddio esgidiau lledr na rhai â gwadn rwber, siacedi lledr nac unrhyw fath o ddillad polyester.
content
I’r rhai sy’n dewis claddu gweddillion amlosgiad, ni allwn ond derbyn yrnau bioddiraddadwy, wedi’u gwneud o ddeunyddiau fel pîn heb ei drin, bambŵ, gwiail neu helyg. Ni chaniateir yrnau wedi’u gwneud o fetel na phlastig.
content
Oherwydd yr halogi amgylcheddol sydd ynghlwm â’r broses falmeiddio, nid ydym yn derbyn cyrff sydd wedi’u balmeiddio. Er bod y broses yn gallu cadw’r corff, mae’r cemegau sy’n cael eu defnyddio’n gallu niweidio’r amgylchedd wrth dreiddio i’r pridd.
content
Rydym yn argymell torchau, garlantau neu ysgubau o flodau wedi’u clymu â llaw neu flodeugedau wedi’u gwneud â weiren a mwsogl.
Os ydych yn dewis teyrngedau llythyrau neu flodeugedau traddodiadol sy’n cynnwys plastig neu sbwng blodau gwyrdd, mae’n rhaid tynnu’r rhain ar ôl claddu. Byddwn yn cael gwared ag unrhyw flodeugedau sy’n cael eu gadael wrth y bedd ac arnynt ddeunyddiau nad ydynt yn fioddiraddadwy wrth lenwi’r bedd er mwyn cadw’r amgylchedd yn ddi-blastig.
content
Mae angen i seiri maen ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy gan gyflenwyr sy’n prynu ac yn cynhyrchu cerrig beddi’n gynaliadwy..
Er mwyn annog defnyddio carreg gynhenid a gwneud hyn yn ddewis gwell yn ariannol, byddwn yn dileu’r ffi arferol am gais i osod cofeb, sy’n £206. Bydd hyn yn lleihau’r gost i deuluoedd sy’n dymuno coffáu anwyliaid mewn modd ecogyfeillgar ac amgylcheddol gyfrifol.
content
Nid oes unrhyw fynediad i gerbydau i’r rhan hon o’r fynwent. Parciwch yn ystyriol yn y fynwent gyfagos a cherdded i’r fynwent hon. Mae llwybrau drwy’r fynwent i gael mynediad mewn cadair olwyn.
content
Os byddai’n well gennych gladdu mewn ffordd fwy traddodiadol, trafodwch gyda staff y Gwasanaethau Profedigaeth am ddewisiadau yn Bron y Nant, Tan y Foel, Llangystennin, Rhandir Hedd, Erw Hedd neu Cae Melwr.
Cwestiynau ac atebion:
content
Yn anffodus, mae’r arferion traddodiadol sydd ynghlwm â chladdu’n gallu cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Rydym ni bellach yn deall mwy am y dewisiadau y gallwn eu gwneud i warchod y ddaear.
Mae claddedigaethau gwyrdd yn ddewis amgen ecolegol gyfrifol i gladdu yn y ffordd draddodiadol, ac yn cael cyn lleied o effaith â phosib’ ar yr amgylchedd. Mae claddu fel hyn yn well i’r amgylchedd, gan bwysleisio prosesau naturiol, gwarchodaeth natur a chynaliadwyedd.
Mae lefel trwythiad dŵr uchel ar y darn o dir hwn, felly bydd yr hyn rydym yn ei roi yn y ddaear yn y fynwent hon yn cael mwy o effaith ar ddŵr daear a’r ecosystem sy’n dibynnu arno.
Mae Polisi Amgylcheddol y Cyngor yn cefnogi’r newidiadau hyn i’n polisïau arferol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i:
- Atal llygredd aer, dŵr a thir o ganlyniad i’n gweithgareddau ni a cheisio lleihau llygredd o ffynonellau eraill
- Gwarchod yr amgylchedd drwy sicrhau cyn lleied o effeithiau negyddol â phosib’ o ganlyniad i’n gweithgareddau ni a bod yn arweinwyr cymunedol i hyrwyddo rheolaeth amgylcheddol gyfrifol .
- Pennu a chydymffurfio â’r holl rwymedigaethau cydymffurfio amgylcheddol sy’n berthnasol i ein sefydliad.
- Bod yn ddefnyddiwr carbon sero net erbyn 2030.
content
Mae eirch traddodiadol yn aml wedi’u gwneud gan ddefnyddio resin neu lud ac mae leinin plastig ynddynt fel arfer. I gadw at ein hegwyddor ddi-blastig, ni fyddwn yn caniatáu eirch sy’n cynnwys argaen pren, MDF na bwrdd sglodion pren.
Mae leinin plastig mewn eirch (‘cremfilm’) wedi’i wneud o bolyethelene. Mae hwn yn niweidiol i’r amgylchedd a gall ollwng cemegau i’r pridd o’i amgylch. Gall y rhain wedyn dreiddio i ddŵr daear a’r ecosystem.
content
Mae polyester, neilon ac acrylig i gyd wedi’u gwneud o blastig.
Mae cemegau’n cael eu defnyddio wrth drin crwyn i wneud lledr.
Mae lledr ffug ar ddillad ac esgidiau wedi’i wneud o wahanol ddeunyddiau plastig felly nid ydynt yn ddefnyddiau addas i’w claddu.
content
Mae llawer o gemegau mewn hylifau balmeiddio, gan gynnwys fformaldehyd, sy’n asid. Mae’r rhain yn gadael y corff wrth iddo bydru ac maent yn niweidiol i’r pridd a dŵr daear.
content
Mae llawer o’r blodeugedau sy’n cael eu gadael mewn mynwentydd wedi’u lapio mewn plastig, gyda rhubanau a chardiau coffa. Mae’r rhain yn malu’n ddarnau dros amser ac yn chwythu o amgylch y fynwent, gan fynd yn sownd mewn gwrychoedd a llystyfiant. Mae hyn yn gwneud i’r fynwent edrych yn flêr ac maent yn beryglus i fywyd gwyllt.
Mae sbwng blodau gwyrdd sy’n cael ei ddefnyddio i greu blodeugedau’n malu’n feicro blastig yn gyflym iawn ac mae’n hawdd iddo lygru’r system dŵr daear.
Arolwg:
Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor tan 6 Tachwedd 2024.
Cwblhau'r arolwg
Os hoffech ragor o wybodaeth am fynwentydd Conwy, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.