Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Siarter y galarwyr


Summary (optional)
start content

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Sefydlwyd y Siarter gan y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) sef sefydliad wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella gwasanaethau profedigaeth a darparu hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n gweithio ynddo.

Fel aelod o’r Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd rydym ni’n gweithio i gyrraedd y safonau gwasanaeth a nodir yn Siarter y Galarwyr. Mae’r siarter yn diffinio hawl pawb sy’n profi profedigaeth ac yn nodi’r safonau ar gyfer gwasanaethau claddu, amlosgi ac angladdau.

Mae’r hawliau yn y siarter hon ar gael ym mhob mynwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn Amlosgfa Bae Colwyn.

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.

end content