Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Angladdau ecogyfeillgar


Summary (optional)
start content

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Rydym ni'n symud tuag at ddarparu gwasanaeth sy’n fwy ecogyfeillgar a gofynnwn i chithau hefyd ystyried dewisiadau ecogyfeillgar pan fyddwch chi’n trefnu angladd.

Dewisiadau ecogyfeillgar  |  Claddedigaethau mewn coetir

Dewisiadau ecogyfeillgar

Pethau fel:

  • gofyn i’r trefnydd angladdau beidio â defnyddio cemegion pêr-eneinio
  • peidio â rhoi pethau plastig ar yr arch
  • osgoi defnyddio deunydd lapio plastig ar osodiadau blodau, gan eu clymu â deunydd naturiol yn lle

Gofynnwn i chi hefyd beidio â gosod goleuadau, clychau gwynt na melinau gwynt o amgylch y fynwent gan fod y rhain yn gallu amharu ar brofiad galarwyr. 

Claeddedigaethau mewn coetir

Woodland burial


Mae claddedigaethau coetir ar gael yn:

  • Mynwent Rhandir Hedd, Llanfairfechan
  • Mynwent Llanrhos, Llanrhos
  • Mynwent Tan y Foel, Penmaenmawr

Mae claddu mewn coetir yn ddewis ecogyfeillgar, heb arch na charreg goffa draddodiadol. Yn defnyddio arch fioddiraddadwy allan o gardbord, coed naturiol neu wiail, mae’r claddedigaethau hyn yn gadael llai o ôl ar yr amgylchedd. 

CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.

end content