Mae cyfleusterau cymunedol yn rhan allweddol o unrhyw ardal ac maent yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau, sy’n cyfrannu at les y gymuned a’r naws am le. At ddibenion y CDLl newydd, maent yn cynnwys rhandiroedd, mynwentydd, ysgolion, llyfrgelloedd, neuaddau pentref, mannau addoli a chanolfannau iechyd.